Anrheg Nadolig munud olaf

Beth am brynu Tanysgrifiad Papur Bro Clonc fel anrheg?

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc
36DD207D-329B-4676-A39E

Mae Papur Bro Clonc ar gael fel tanysgrifiad blwyddyn.  Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n byw’n bell o’r ardal?  Neu beth am rywun sy’n methu mynd i’r siop?

£17.50 yw pris tanysgrifiad blwyddyn drwy’r post, sef deg rhifyn yn syth i ddrws y tŷ.  Cysylltwch ag ysgrifennydd Clonc i wneud trefniadau, neu gallwch lenwi ffurflen archeb banc.

£10.00 yn unig yw pris tanysgrifiad blwyddyn ar y we, sef deg rhifyn digidol ar wefan Clonc.  Trwy wneud hyn gellir darllen Clonc ar eich ffôn, dyfais neu gyfrifiadur.

Dyma anrhegion delfrydol ac anrhegion munud olaf rhwydd eu trefnu.