? Cynnydd yng ngwobrau Clwb Clonc

Gwerth gwobrau Clwb Clonc wedi cynyddu oherwydd cynnydd mewn aelodaeth eleni.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Diolch i bawb sydd wedi ymuno â Chlwb Clonc eleni boed yn aelodau ffyddlon blynyddol neu’n aelodau newydd.

Clwb Cant yw Clwb Clonc sy’n codi arian tuag at Bapur Bro Clonc. Mae’r tâl aelodaeth yn £5 yr aelod a chyhoeddir enwau’r enillwyr ym mhob rhifyn o’r papur.  Mae rhifyn mis Medi yn y siopau lleol erbyn hyn.

Yn ddiweddar hefyd recordiwyd y dynfa fisol yn fyw ar Zoom, ac mae hynny wedi ennyn diddordeb aelodau newydd.  Erbyn hyn mae gan Glwb Clonc 534 o aelodau ac o ganlyniad i hynny cynyddwyd gwerth y gwobrau bob mis.

Ysgrifennydd Clonc yw Mary Davies a thrysorydd Clonc yw ei merch Nia.  Y ddwy weithgar hyn sy’n gyfrifol am weinyddu Clwb Clonc ers blynyddoedd.

Gwyliwch dynfa mis Medi lle mae Dylan Lewis yn holi Mary, Nia ac Elliw, wyres Mary a fu’n cynorthwyo’r ddwy yn trefnu’r rhifau aelodaeth.