Dychmygu dyfodol tafarn sy’n “lle i ddysgu byw”

Mae cyfle wedi codi i’r gymuned leol brynu tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron 

Lowri Fron
gan Lowri Fron

Nos Fercher daeth cynrychiolwyr mudiadau Dyffryn Aeron ynghyd i drafod syniadau, a dychmygu pa wahaniaeth allai prynu tafarn y Vale ei wneud i’r gymuned leol.

Ar ôl blynyddoedd dan berchnogaeth Rowland a Daphne Evans, mae’r dafarn bellach ar werth ers sbel fach, a bydd y denantiaeth bresennol yn dod i ben yn yr hydre.

Beth fyddai’n digwydd nesa? Allai’r lle ma, sydd wedi bod yn gymaint o galon i’r gymuned, gau?

Roedd y cwestiynau hynny’n ddigon i ddod â chriw bach ynghyd i weld a fyddai modd ffurfio menter gydweithredol (co-op) i brynu’r dafarn, a’i rhedeg fel adnodd i’r gymuned. A bellach mae’r criw bach wedi tyfu’n fwy, wrth i gynrychiolwyr mudiadau ddweud eu dweud yn y sesiwn syniadau gyntaf.

Mae’n lle i yfed a byta, i chwerthin a dadle, i chwarae pŵl a chanu a chynllunio’r ddrama nesa. Ond daeth hi’n amlwg bod y Vale yn rhywbeth arall hefyd – “mae’n lle i ddysgu byw”. Rhywffordd, mae’r Vale yn teimlo fel tasai’n perthyn i bawb. Gyda’i hanes o gerddoriaeth fyw a’i cwtshys a’i locals, mae gan y dafarn naws diwylliannol naturiol – rhywbeth fyddai’n anodd iawn ei greu o’r newydd.

Fe rannwyd ychydig o ysbrydoliaeth gan fentrau cymdeithasol ar y noson hefyd. Roedd gweld bod cymuned fel Llandwrog wedi llwyddo i brynu tafarn Tyn Llan trwy werthu siârs yn ddiweddar yn hwb bod hyn yn bosib yn Nyffryn Aeron hefyd.

A do, fe ddechreuwyd casglu syniadau am beth allai’r dafarn fod, a sut gallai pawb elwa ohoni i’r dyfodol. Ond dechrau’r daith oedd y sesiwn fach yma gyda chlybiau a chymdeithasau’r fro. Cyn mestyn mas ymhellach gyda chyfres o sesiynau galw heibio (a chadwch lygad mas am fanylion rheiny), mae gan Fenter Tafarn y Dyffryn holiadur, ac rydym yn annog cymaint o bobol leol â phosib i’w llenwi er mwyn casglu barn pawb.

Mae cymaint o gwestiynau’n dal heb eu hateb, wrth gwrs, a’r gobaith yw y bydd y gymuned gyfan yn cydio yn y cyfle i ddod ar y daith i ffindio’r atebion. Ond mae tri cwestiwn pwysig bellach ar ein meddyliau ni i gyd:

Os nad y Vale, ble? Os nad nawr, pryd? Ac os nad ni, pwy?