? Gwobrau Mawr Clwb Clonc Gorffennaf

Dim ond £5 yw’r tâl aelodaeth, gwobrau da a chefnogi Clonc yr un pryd.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Yn y fideo isod ac yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc, cyhoeddir enwau enillwyr lwcus gwobrau mawr Clwb Clonc.  Llongyfarchiadau i bob un ohonynt, a diolch yn fawr am ymaelodi a chefnogi’r papur bro bob blwyddyn.

Y wobr gyntaf arferol yw £25 gyda £20 am ail, £15 yn drydydd ac yn y blaen, ond ym misoedd Rhagfyr a Gorffennaf rhoddir gwobrau mawr o £50 am y wobr gyntaf a’r ail, £25 am drydydd a phedwrydd, £20 am bumed a chwched, £15 am seithfed ac wythfed ac yn y blaen.

Mae’n werth ymaelodi felly.  Am bris llyfr raffl arferol, cewch gyfle i ennill gwobrau ariannol da deg gwaith y flwyddyn.  Mae’n ffordd hwylus o gefnogi gwaith y papur bro hefyd.  Daw Clwb Clonc ag arian da i’r coffrau gan gadw pris y papur yn rhesymol i bawb.

Dim ond £5 yw’r tâl aelodaeth, ond mae sawl cefnogwr yn talu mwy nag un aelodaeth sy’n golygu bod mwy o gyfle ganddyn nhw i ennill.

Nawr yw’r amser o’r flwyddyn pan welwch chi wirfoddolwyr Clonc mewn blwyddyn arferol yn galw o dŷ i dŷ i gasglu aelodaeth Clwb Clonc.  Ond mae eleni’n wahanol, fel llynedd, a gofynnir i chi ddanfon y taliadau ymlaen.

Mae calendr y clwb yn rhedeg o fis Medi i fis Gorffennaf.  Am £5 y flwyddyn bydd deg tynfa, a chyhoeddir enwau’r enillwyr mewn deg rhifyn gwahanol o’r papur bro.

Beth am ymaelodi eleni, os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod?  Drwy lenwi’r ffurflen archeb banc byddwch yn talu drwy’r banc bob blwyddyn ac yn lleihau’r gwaith i wirfoddolwyr Clonc.  Gellir trefnu archeb banc o £5 neu fwy drwy fancio ar y we hefyd.  Gellir dod o hyd i rif cyfrif Clwb Clonc ar y ffurflen uchod.

Gwerthfawrogir eich cymorth yn fawr iawn.  A phob lwc.  Cyhoeddir enillwyr Clwb Clonc nesaf yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.