Ar ôl gorfod gohirio digwyddiad Nadolig Siambr Fasnach y dref llynedd, mae e’n bleser eleni gallu dod at ein gilydd fel grŵp i drefnu noswaith groesawgar o siopa, bwyta a dathlu yn nhref Llambed ar nos Iau, 25ain o Dachwedd.
Bydd nifer o siopau Llambed yn ymestyn eu horiau agor am y noswaith er mwyn i bron pawb cael y cyfle i gefnogi siopau a busnesau lleol tra’n siopa ar gyfer y Nadolig. Mae’r drefn hon (ynghyd â’r cloncan, losin, mis peis neu ddiodydd a fydd yn aml yn cael eu cynnig gan y siopau ar y noson) hefyd yn ffordd o ddangos gwerthfawrogiad busnesau lleol am y cwsmeriaeth ffyddlon sydd wedi cadw strydoedd Llambed yn fyw wedi difrod economaidd y pandemig.
Tra bydd y Stryd Fawr wedi ei gau i gerbydau, bydd Marchnad Llambed yn ymuno yn yr hwyl a darparu cyfle i fusnesau bach y dref i arddangos eu crefftau a nwyddau.
Os oes gennych diddordeb i archebu lle yn y farchnad yma (mae yna dâl o £10 y stondin), mae croeso i chi gysylltu â Dinah Mulholland ar lampetermarket@gmail.com i drefnu hyn.
Bydd Sion Corn yn ymweld â Llambed, ac yn dechrau ei noswaith yn cyfarch preswylwyr o du fas Hafan Deg trwy ffenestri’r heulfan. Bydd Sion Corn yna yn cerdded i ganol y dref tuag at Eglwys Efengylaidd Llanbed, lle bydd e yn darparu anrhegion i blant y fro o tua 5.00yh ymlaen.
Bydd adloniant pypedau yn diddanu plantos a’u gwarcheidwaid tra’n aros i ymweld â’r groto, a bydd cyfle hefyd i archebu lluniaeth ysgafn o’r Hedyn Mwstard.
Mae adloniant eleni yn cynnwys cerddoriaeth gan Gôr Cwmann, Clwb Ukulele Llambed, ac hefyd rhai o Glybiau Ffermwyr Ifanc y fro. Bydd cwmni ffotobwth Cwtsh Camera yn diddanu ymwelwyr trwy osod y ffotobwth allan ar y stryd i gynnig hwyl a sbri Nadoligaidd am ddim i bob un, gan gynnwys print i’w gadw. Gyda ffair yn bresennol ac efallai hyd yn oed ymwelaid gan injan coch y Frigad Dân, bydd digon ar gael i blesio pawb!
Cofiwch edrych allan yr wythnos cyn y digwyddiad am lythrennau cudd yr helfa drysor ymysg y nwyddau sydd yn ffenstri’r siopau – bydd ffurflenni papur ar gael yn Y Stiwdio Brint i’w llenwi, a bydd hefyd ffurflen electronig ar dudalen Facebook y digwyddiad.
Cadwch lygad ar y dudalen Facebook – bydd manylion pellach am y digwyddiad yn cael eu cynnwys maes o law, ond yn bendant bydd yna groeso cynnes i bawb yn Llambed ar y noson arbennig hon!
Noson Siopa Nadolig Llambed – Lampeter Late Night Shopping | Facebook