Osian yn ennill cwpan ei dad-cu mewn cystadleuaeth golff

Diwrnod Llywydd i’r teulu yng Nghlwb Golff Cilgwyn Llangybi.

gan Hannah James
7E9C1965-38C5-44AF-AC26

Roedd yn ddiwrnod anhygoel i Lywydd Clwb Golff Cilgwyn Richard Young ddydd Sadwrn 7fed Awst gyda dros 71 yn cystadlu i wneud ei ddiwrnod yn arbennig ynghyd â’i deulu a’i ffrindiau cyfan.

Cafwyd rhostio mochyn gyda chyflwyniad a raffl i ddilyn.

Rhys Evans a enillodd y wobr gyntaf yn yr adran iau gyda 40 pwynt, ac er mwyn gwneud yr achlysur yn fwy arbennig fyth enillwyd digwyddiad 36 A E Young i ddynion ifanc gan ei fab ei hun Osian Young ychydig wythnosau ynghynt. Roedd hi’n braf tynnu ei lun gyda’i dad-cu.