Canmol gweithgarwch y Ffermwyr Ifanc

Lois Williams y golygydd sy’n trafod apêl rhifyn Rhagfyr Clonc

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Lois Williams, Golygydd rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc sy’n trafod cynnwys y papur y mis hwn ac yn tynnu sylw at weithgarwch y Ffermwyr Ifanc a straeon Nadolig, mewn cyfweliad fideo gyda Dylan Lewis y Cadeirydd.

Cofiwch brynu eich copi chi o Bapur Bro Clonc.  Mae rhifyn Rhagfyr ar gael nawr yn y siopau lleol neu drwy danysgrifio’n ddigidol ar y we.

Beth am brynu tanysgrifiad drwy’r post fel anrheg Nadolig i rywun am £17.50 y flwyddyn neu danysgrifiad digidol am £10.00 yn unig?