Yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc, sef rhifyn 400, cyhoeddwyd 5 cystadleuaeth ar y cyd â phwyllgor Parêd Gŵyl Dewi Llanbed i blant er mwyn dathlu pen-blwydd y papur yn 40 oed.
Cafwyd ymateb anhygoel, a diolch i’r cannoedd a gystadlodd. Cyflwynir y buddugwyr dros baned ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi Parêd Gŵyl Dewi Llanbed ddydd Sadwrn.
Ddoe, arddangoswyd y buddugwyr ym mhob cystadleuaeth ynghyd â detholiad o’r rhai a gyrhaeddodd gategori cymeradwyaeth uchel yn ffenestri siop Crown Stores yn Stryd Fawr Llanbed.
Dyma’r canlyniadau:
Oedran Cyn Ysgol, Meithrin a Derbyn – Addurno llun balŵn gyda’r rhif 40 arno. Llongyfarchiadau i Leti-Grês Davies, Cylch Meithrin Carreg Hirfaen a rhoddwyd 22 enw yn y categori Cymeradwyaeth Uchel.
Oedran Blynyddoedd 1 a 2 – Creu baner “Clonc yn 40”. Llongyfarchiadau i Quinn Brown o Ysgol Dyffryn Cledlyn a rhoddwyd 21 enw yn y categori Cymeradwyaeth Uchel.
Oedran Blynyddoedd 3 a 4 – Creu darn graffiti – Clonc 40. Llongyfarchiadau i Joey Saunders o Ysgol y Dderi a rhoddwyd 13 enw yn y categori Cymeradwyaeth Uchel.
Oedran Blynyddoedd 5 a 6 – Creu Cerdyn Pen-blwydd Hapus i Clonc yn 40 oed. Llongyfarchiadau i Deina Evans o Ysgol Carreg Hirfaen a rhoddwyd 28 yn y categori Cymeradwyaeth Uchel.
Oedran Blynyddoedd 7 ac 8 – Poster Hysbysebu Parêd Gŵyl Dewi Llanbed 2023. Llongyfarchiadau i Louie Jones o Ysgol Bro Pedr a rhoddwyd 12 yn y categori Cymeradwyaeth Uchel.
Diolch i Mrs Wendy Thomas o Ysgol Bro Pedr a Mr Steffan Rees o Fenter Iaith Cered am feirniadu a diolch i Dawns Welsh Gifts am cynhyrchu’r gwobrau a’u cyfrannu.
Gellir cael cipolwg o’r arddangosfa yn y fideo isodondcofiwch alw i weld y cyfan yn y dref. Gwledd i’r llygad!