Llawenhau oedd pobl ardal Llanbed nos Wener ddiwethaf yn Nathliad Pen-blwydd Papur Bro Clonc yn 40 oed. Diolch yn arbennig am ddifyrrwch y diddanwr Gary Slaymaker a llond lle o ganu hwylus yng nghwmni Dafydd Pantrod a’i fand. Trefnwyd y noson ar y cyd â Phwyllgor Parêd Gŵyl Dewi Llanbed.
Dechreuodd pethau am 6 o’r gloch pan ddaeth criw o wirfoddolwyr a charedigion Clonc at ei gilydd cyn i’r noson fawr ddechrau. Cyflwynodd Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc ddwy siaradwraig wadd sef Elin Williams a Nans Davies. Roedd Elin a Nans yn olygyddion ar y papur bro nôl yn 1982 pan sefydlwyd y papur, a rhannwyd atgofion difyr gan y ddwy o’r weledigaeth a fu ar y cychwyn a’r gwaith caled oedd bryd hynny cyn dyfodiad cyfrifiaduron er mwyn sicrhau cyhoeddiadau safonol.
Fe lenwodd ystafell lofft Clwb Rygbi Llanbed erbyn 7 o’r gloch pan ddechreuodd yr adloniant dan arweiniad Gary Slaymaker sy’n ddiddanwr profiadol yn wreiddiol o Lanbed. Rhannodd sawl stori cofiadwy, gyda’r gynulleidfa’n bloeddio chwerthin.
Cyflwynodd Dafydd Pantrod a’i fand, sef Dafydd Davies, Cefin Vaughan a Dafydd Vaughan sawl set fyw o gerddoriaeth adnabyddus a phoblogaidd o ganeuon Dafydd Iwan i Tecwyn Ifan, caneuon gwerin cyfarwydd ac emynau sionc, ac wrth i’r noson fynd ymlaen ymunodd pawb yn y canu.
Yn ystod y noson cafwyd sawl cystadleuaeth ysgafn:
Gorffen Limerig (a baratowyd gan Janet Evans)
Y beirniad oedd Ben Lake AS a draddododd ei sylwadau yn ogystal â darllen detholiad o’r goreuon.
Yn gydradd ail oedd Einir Ryder ac Eddie Thomas gydag Eddie yn ennill y wobr gyntaf hefyd.
Mae heno yn noson o ddathlu,
Medd Dylan wrth Nia a Mary,
Daw atgofion yn llu
O’r amserodd a fu,
Ond peidiwch anghofio am fori.
Darllen darn heb ei atalnodi (a baratowyd gan Delyth Morgans Phillips)
Dewiswyd Rhys Bebb Jones yn feirniad ar y gystadleuaeth hon a dyfarnodd fel a ganlyn:
1af Megan Dafydd a chydradd ail i Ifan Meredith ac Elin Dafydd.
Raffl (a drefnwyd gan Nia Wyn Davies a Mary Davies)
1. Hamper o Laeth Gwarffynnon yn rhoddedig gan Dai a Gwen Davies i Islwyn Williams, Cwmann.
2. Bocs set CDs y Cyrff yn rhoddedig gan Rhys a Shan Jones i Cefin Vaughan o’r band.
3. Ffrâm o argraffiad gan James Loveday o linell allan o englyn y diweddar T Glenfil Jones yn rhoddedig gan Dylan a Carys Lewis i Wynne Davies, Llanbed.
4. Taleb Gwesty’r Grannell yn rhoddedig gan Nia, Mary a Gareth Davies i Fflur Meredith, Llanbed.
5. Tocyn Llyfr yn rhoddedig gan Eryl Jones i Meleri Jones, Llanbed.
6. Nwyddau Papur Bro Clonc i Elin Jones, Cwmann.
7. Cacennau’r Dathlu o waith Gareth Richards i Sarah Ward, Llanbed.
Dosbarthwyd hen rifynnau Clonc ar y byrddau yn yr ystafell, gan gynnwys y rhifyn cyntaf a’r tri rhifyn a gyhoeddwyd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 1984, Diolch i Nans Davies am ddod â nhw. Roedd pawb wrth eu bodd yn pori trwyddynt.
Rhannwyd cacen pen-blwydd fach i bawb oedd yn bresennol a chanwyd Pen-blwydd Hapus i gyfeiliant Dafydd Pantrod a’i fand.
Diolch Nicola a’i staff cyfeillgar am y croeso yn y Clwb Rygbi. Bu’n noson lwyddiannus iawn a phawb yn cytuno eu bod wedi mwynhau. Gwyliwch y fideo uchod er mwyn cael blas o hwyl y noson.