Clwb Moduro Llanbed a’r Cylch yn codi arian da

Cyflwyno Siec i Apêl Uned Cemotherapi Bronglais

gan Anthea C Jones

Yn ddiweddar cyfrannodd Clwb Moduro Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch, siec o £150 i Apêl Uned Cemotherapi Bronglais.

Codwyd yr arian drwy ocsiwn am docynnau Rali Cymru GB cyn y cyfnod clo.

Mae’r Clwb yn cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Llanbed bob yn ail nos Fercher y mis am 7:30 o’r gloch.

Bydd Rali Bro Caron yn cael ei chynnal 5/6 Mawrth 2023 – bydd y rali yn 40 oed blwyddyn nesa, a bydd llyfryn yn cael ei gyhoeddi i ddathlu.

Ynghŷd â threfnu Rali Bro Caron yn flynyddol, cynhelir rhaglen o weithgareddau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae croeso cynnes i aelodau newydd bob amser.