Wedi dwy flynedd o seibiant mae Gŵyl Fwyd Llanbed yn dychwelyd i’r dref, gan adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl yn 2019 o dan reolaeth Y Siambr Fasnach a’i gwirfoddolwyr.
Dyma 5 peth go dda i’ch temptio chi i ddod i’r Ŵyl Fwyd, sydd ar ddydd Sadwrn:
1. Mr Conti fydd yn agor y digwyddiad yn Swyddogol am 12yp
Rwy’n ei gymryd e’n ganiataol bod pawb led-led Cymru wedi clywed am hufen iâ Conti’s erbyn hyn, a Mr Leno Conti yw ein gŵr gwadd ni eleni a fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol am 12yp ger blaen yr Hen Adeilad. Bydd croeso mawr iddo nôl i ganol y dref, dwi’n siwr, wedi degawdau o rhedeg ei fusnes deuluol boblogaidd ar y sgwâr.
2. Cynllun Newydd
Mae cynllun y pebyll wedi’i newid yn llwyr eleni, i wella ar gwedd y maes ac i sicrhau llif o aer ffres i bob un o’r arddangoswyr – mae’r pebyll mawr wedi gallu bod yn boeth ambell flwyddyn, a gwell bod yn fwy saff rhag y Cofid os y medrwn, hefyd! Eleni rydym yn defnyddio pebyll marchnad ac yn darparu dros ddwywaith y nifer o fannau i eistedd i chi cael profi’r bwydydd a diod ar y maes.
3. Bagiau Cotwm
Os oes gwell gyda chi i gludo nwyddau gartref i’w mwynhau, dyma newyddion da – eleni rydym wedi printio bagiau cotwm amldro, ac yn eu gwerthu ar y maes – £3 yr un, neu dwy am £5. Momento hyfryd, defnyddiol, i’ch hatgoffa chi am un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y dref!
4. Cornel Coginio a’r Babell Adloniant ar eu gorau
Eleni mae WYTH(!) o westeion cyffrous yn ymuno â ni yn y Gornel Coginio, ac yn cynnig diwrnod llawn o goginio i’n diddanu. Gweler rhestr y cogyddion ar y wefan – www.lampeterevents.co.uk – yn ogystal â thamaid o’u hanes.
Yn debyg i’r Cornel Coginio, mae’r babell adloniant yn llawn dop â pherfformiadau arbennig i’n difyrru yn ystod y dydd.
5. Amrywiaeth o Fwyd a Diod
Bydd amrywiaeth di-ri o stondinwyr yn mynychu Gŵyl Fwyd Llanbed eleni, ac unwaith eto mae llawer o’r rhain yn gwmnïau cyffrous a chyfoes – dewch i flasu cynnyrch tatws unigryw Signore Twister, sawsiau sbeislyd The Welsh Saucery, cynnyrch ‘cheeky’ Fat Bottom WelshCakes, neu dracht o ddiod gan Bragdy Tanat o Bowys. Mae Marchnad Llambed hefyd yn ymuno â ni ar diroedd y Brifysgol dydd Sadwrn, felly bydd mwy fyth o gynnyrch lleol, ffres ac unigryw ar gael i ymlwelwyr yr ŵyl.
Mae’r Ŵyl Fwyd yn rhad ac am ddim i fynychu, yn hawdd i’w ffeindio, ac yn gyfle gwych i ymdrochi yn niwylliant helaeth bwyd a diod yng Nghymru – Gwelwn ni chi yna!