gan
Anthea C Jones
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2022/11/390B619E-1A94-4C6B-A627-640x396.jpeg?21)
Ar nos Wener 28ain Hydref, cynhaliwyd Noson Caws a Gwin yn Neuadd yr Eglwys Llanbedr Pont Steffan dan ofal Dorothy Williams.
Cafwyd noson hwylus iawn, gyda raffl ac ocsiwn. Codwyd swm o £1,052 a fydd yn cael ei rannu rhwng Apêl Cemotherapi Bronglais ac Uned Nyrsys Gofal Lliniarol, Bronglais.
Diolch i bawb wnaeth gyfrannu ym mhob ffordd at lwyddiant y noson.