Eira mawr 1982

Ydy chi’n cofio eira mawr 1982 – 40 o flynyddoedd yn ôl? Ble oeddech chi? Beth yw’ch atgofion?

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Dyma gyfle i ni gyd i hel atgofion am EIRA 1982, 40 o flynyddoedd yn union yn ôl.

Ewch ati i dwrio yn yr albym lluniau neu dyddiaduron i weld a oes gyda chi atgofion i’w rannu.

14:15

Dydd Sadwrn, 9fed

Bwrw eira.

Wedi lluwchio ddifrifol yn y nos ac ar y bore yn ymyl Llysmeddyg. Lluwch tua 10troedfedd. Gareth lan yn Blaenhirbant yn mofyn llaeth. Y tywydd gwaethaf a gafwyd yng Nghymru ers 1947. Gareth draw gyda Emlyn a Danny yn mofyn bara o Llanybydder. Dim byd yn pasio ar yr hewl o gwbl.

14:14

Dydd Gwener, 8fed

Bwrw eira drwy’r dydd. Gwynt cryf. Lluwchio uchel ymhobman.

Gareth adre yma heddi. Wedi bod yn clirio’r eira sawl gwaith. Bu hefyd yn clirio tu allan i Arfryn. Diwrnod gwael ofnadwy. Dim cerbyd wedi pasio ar ôl 8.00yb. Tawel iawn ydoedd. Dim post na llaeth. Gwynt cryf ofnadwy yn ystod y nos.

14:13

Dyma ambell i bwt o dyddiadur Mary Davies a oedd yn byw yn Brynmeddyg, Cwmsychpant ar y pryd. 

Ionawr 1982

 8fed a 9fed –

Bwrw eira ofnadwy. Lluwchio eira. Yr hewl fawr drwy Gymru yn blocked. Pop peth ym mhom man ar standstill.