Côr Cardi-Gân yn cyflwyno sieciau i elusennau

Dwy elusen yn ddiolchgar o arian a godwyd gan y côr.

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
IMG_6784

Dewi Jones, y Cadeirydd yn trosglwyddo siec i Tomos a Dyfan Lewis, Tir Dewi.

IMG_6790

Dewi Jones, y Cadeirydd yn trosglwyddo siec i Dai Davies, RABI.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Côr Cardi-Gân sieciau i wahanol elusennau. Y ddwy elusen oedd RABI a Tir Dewi a derbyniodd cynrychiolwyr y ddwy siec gwerth £500 yr un.

Dywedodd Carys Jones a Dai Davies:

“bod yr arian yma yn werthfawr iawn ar gyfer gwaith mae’r elusennau yn gwneud”.

Casglwyd yr arian yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy gynnal gwahanol ddigwyddiadau a Canu Carolau.

Mae’r côr yn ymarfer bob nos Fercher yn Y Gwndwn, Campws Theatr Felinfach am 7.45yh. Mae yna groeso cynnes i aelodau newydd bob amser. Rydym yn paratoi nawr tuag at y Nadolig gyda 3 digwyddiad ym mis Rhagfyr. Noson Canu Carolau yn Eglwys Aberaeron ar Rhagfyr 3ydd, Gŵyl y Goeden yn Eglwys Ystrad Aeron ar Rhagfyr 17eg a byddwn yn mynd o amgylch cartrefi gofal yr ardal ar nos Fercher, Rhagfyr 6ed.