Cerdded i godi arian ar gyfer clefyd Motor Neuron

Pum mlynedd ers colli Mam o Motor Neuron, rwy’n cerdded ym Ionawr i godi arian ar gyfer yr elusen.

Tegryn Jones
gan Tegryn Jones

Pum mlynedd yn ôl bu farw fy mam, Sallie Jones, Hathren, Heol y Bont, Llanbed, ychydig o fisoedd ar ôl darganfod ei bod yn dioddef o glefyd Motor neuron (MND).

Mae hwn yn gyflwr creulon sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau, lle mae’r celloedd yn yr ymennydd a’r nerfau yn peidio â gweithio a negeseuon o’r niwronau motor yn raddol yn peidio â chyrraedd y cyhyrau. Mae hyn yn arwain y cyhyrau i wanhau, stiffio a gwastraffu, a all effeithio ar y ffordd yr ydych yn cerdded, yn siarad, yn bwyta, yn yfed ac yn anadlu. Mae rhai pobl hefyd yn cael newidiadau i’w ffordd o feddwl a’u hymddygiad, ond mae’r afiechyd yn effeithio ar bawb yn wahanol. Ni fydd pob symptom yn effeithio ar bawb, nac yn yr un drefn. Mae symptomau hefyd yn cynyddu ar gyflymder amrywiol, sy’n ei gwneud yn anodd rhagweld cwrs y clefyd.

Nid oes iachâd ar gyfer MND a gall effeithio ar oedolion o bob oed. Mae rhai pobl yn byw’r cyflwr am nifer o flynyddoedd ond gall MND leihau disgwyliad oes yn sylweddol ac yn y pen draw arwain at farwolaeth.

Er mwyn cefnogi ymdrechion i ddod o hyd i iachâd ar gyfer MND byddaf yn cymryd rhan yn her Cymdeithas MND o gerdded 15,000 o gamau’r dydd yn ystod mis Ionawr. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech helpu i herio MND trwy fy noddi isod. Neu am ragor o wybodaeth am MND dilynwch y Gymdeithas MND.

Gellir fy noddi: https://www.facebook.com/donate/2787863554678717/