Cerdded i godi arian

Undodiaid Aeron Teifi’n cefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol

Dylan Iorwerth
gan Dylan Iorwerth

Fe ddaeth 17 o aelodau Undodiaid Aeron Teifi at ei gilydd ddydd Sul (14 Mai) i godi arian at Wythnos Cymorth Cristnogol.

Gyda chefnogaeth cyfeillion, roedd y criw wedi codi cyfanswm o tua £350, gyda rhai cyfraniadau eraill ar y ffordd.

Taith Gerdded fach hamddenol oedd hi o ganol Aberaeron ar hyd yr hen reilffordd i Lanerchaeron ac yn ôl, gyda chyfle am baned a chacen hanner ffordd.

Mae’r llun yn dangos y cerddwyr (a Ross y ci), gydag Ifan Meredith o’r golwg yn tynnu’r llun. Roedd y gwahaniaeth oedran rhwng yr ieuenga’ a’r hyna’ tros 70 o flynyddoedd.

Mae arian Wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn mynd i helpu ffermwyr ym Malawi, un o wledydd tlota’ Affrica lle mae’r newid hinsawdd sy’n cael ei achosi gan ein ffordd ni o fyw wedi creu dinistr mawr.