Chwilio am bobl i helpu yn Ysgol Llanybydder

Rhaglen deledu “Prosiect Pum Mil” yn mynd i wella adnoddau Ysgol Llanybydder

Victoria Davies
gan Victoria Davies

boomcymru.co.uk

Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Llanybydder wedi llwyddo i gael ei derbyn i gael help rhaglen deledu ‘Prosiect Pum Mil’.

Y gobaith yw cael help i greu hwb ‘Help Llaw’ ac hefyd i greu ardal addas i cyfarfodydd ‘Ti a Fi’ yn ogystal â chreu gardd i dyfu ffrwythau a llysiau.

Bydd angen help gan wirfoddolwyr gyda’r prosiect ar benwythnos y 1af a’r 2il o Orffennaf gyda datgelu’r prosiect gorffenedig ar y 3ydd.

Cyfres boblogaidd ar S4C yw Prosiect Pum Mil lle rydym yn gweld Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn teithio hyd a lled Cymru yn ceisio creu prosiectau cymunedol am bum mil o bunnoedd.

Yn ystod cyfres flaenorol gwelwyd Emma a Trystan yn trawsnewid ystafelloedd newid clwb pêl droed, creu gardd synhwyrau, codi caban cwnsela ac agor siop! Ond fyddai dim un o’r prosiectau yma wedi llwyddo heb help pobl leol, felly mae angen digon o ddwylo medrus, bôn braich ac ychydig o lwc.

Dywed Kimberly Rees, cadeirydd y gymdeithas, “Rydym angen cymorth gan bobl o’r gymuned leol ac mae hynny’n cynnwys mamau a tadau, mamgus a tadcus!”

Ychwanega Kimberly, “Os allwch chi sbario’r amser i ni, a’ch bod yn barod i helpu, cysylltwch â’r ysgol, neu unrhyw aelod o’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.”