
Aelodau’r gangen gyda’u gwesteion

Blas ar wledd fendigedig yr Hedyn Mwstard.

Paratoi i dynnu’r llun mawr. Yn eistedd, mae dwy o’r aelodau sydd wedi bod yn aelodau yn ddi-dor o’r cychwyn: Avril Williams a Dilwen Roderick. Rhyngddynt mae Beti Evans, y llywydd cyntaf ac un o sylfaenwyr y gangen.

Eryl Jones, un arall sydd wedi bod yn aelod ers y dechrau.

Aerwen a Helen. Ceidwaid y balŵns!

Verina, Rosemary a Mary

Elin, Ann, Tegwen, Gillian ac Owenna


Gillian Jones yn darllen ei cherdd i gyfarch y gangen ar y pen-blwydd arbennig

Tegwen Griffiths, Trefnydd Cenedlaethol Merched y Wawr

Owenna Davies, Llywydd Rhanbarth Ceredigion.

Janet yn rhannu atgofion difyr

Anita Williams (canol) gyda’r llun o Stryd y Coleg o waith Aerwen Griffiths (chwith). Yn y llun hefyd mae Elin Williams, y llywydd eleni. Mae’r Hedyn Mwstard yn rhan o’r llun.

Sian, Gwenda ac Elsi

Dwy Ann, Anne a Beverley.

Anne, Avril a Gwyneth


Y lleoliad: capel Yr Hedyn Mwstard. Gwerthfawrogir yr adnoddau technegol – cyfle i ddangos cyfarchion gan gyn-aelodau, lluniau o wahanol gyfnodau a dogfennau amrywiol. Atgofion melys.

Elma,Morfudd a Sadie


DATHLU’R AUR
gan Gillian Jones
(darllenwyd y gerdd yn y parti)
O mor braf yw cael y cyfle
I ymgynnull ar y daith,
I gael dathlu pumdeg mlynedd
O weithredu dros yr iaith.
Nôl yng nghynnwrf y saithdegau
Deffrowyd ardal Llanbed gron,
“Rhaid i ni gefnogi’r ysfa
I wneud gwaith drwy’r iaith yn llon”.
Casglwyd enwau merched teilwng
I fwynhau a chreu mewn cân,
Hybu llên a chrefft diwylliant –
Dros y Mudiad roent ar dân.
Beti oedd y llywydd teilwng
Gyda Beryl law-yn-llaw,
Ann, Elizabeth a Dilwen
Crewyd pwyllgor praff, difraw.
Dechrau cwrdd fan hyn yn union
Wnaed pumdeg mlynedd nôl,
Ninnau heddiw’n cau y cylchdro
Gyda’r Mudiad yn ein côl.
Pwyllgor gwaith yn rhan o’r trefnu,
Enwau rhai sydd yma nawr –
Avril, Morfudd, Pat ac Eryl,
Gwenda hefyd ar y clawr.
Rhaglen drwy’r Gymraeg yn unig
A’r cofnodi yr un modd,
Canu’r anthem o waith Jacob
A’r aelodau wrth eu bodd.
Wedyn baner gan law gywrain –
Diolch Rosemary am y gwaith,
Ac ymroddiad pob un aelod
Yn hwyluso trefn y daith.
Sgwrs a darlith, drama, canu
Gwau, gwnio a choginio,
Teithio, gwledda a chystadlu –
Creu amrywiaeth drwy gydweithio.
Hanner canrif rôl creu sylfaen
Mae y trawstiau yn rhai praff,
Miloedd o aelodau gweithgar
yn cydweld, a’r iaith yn saff.
Ac yng ngeiriau’n harwr oesol
Cydlefarwn ni i’r byd,
O odyn – yn reit i wala
Ryn ni yma – ryn ni yma o hyd!