Cyflenwr Arbenigol Salvia yng Ngheredigion

Chwilio am athro soddgrwth a darganfod garddwr hyfryd!

Vicki Weston

Vicki Weston

Twnnel gyda dros 100 o blanhigion gwahanol

Twnnel gyda dros 100 o blanhigion gwahanol

S.Involucrata

S.Involucrata

S.fulgens

S.fulgens

Jacqueline Hurrell ydw i ac rydw i’n cael gwersi Cymraeg yng Nghanolfan Creuddyn, Llambed bob dydd Mercher. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor. Dw i’n byw ym Mhontsian. Symudais i yma bum mlynedd yn ôl ar ôl ymddeol.  Felly roedd amser gen i nawr i ddysgu Cymraeg a dysgu canu’r sielo. Mae canu’r sielo wedi bod yn rhywbeth dw i wedi bod eisiau ei wneud erioed. Yn ffodus iawn felly, dri mis yn ôl, des i o hyd i rywun a fyddai’n gallu dysgu pensiynwr! Ar ôl cael dau fis o wersi, dysgais fod fy athrawes, Vicki Weston, yn rhannu fy angerdd am arddio.  Ond mae Vicki wedi mynd yn bellach na fi. Mae ganddi angerdd am dyfu Salvias!

Ar ôl llawdriniaeth ddifrifol i’w chefn, effeithiodd hyn ar ei gyrfa soddgrwth proffesiynol. Symudodd Vicki felly i Henllan ger Llandysul o Swydd Efrog yn 2013. Roedd hi’n chwilio am dyddyn lle gallai ddechrau meithrinfa ar gyfer eginblanhigion. Hoffai Vicki wneud cais am Statws Casgliad Cenedlaethol o fewn y blynyddoedd nesa. Mae digon o ddewis gan Vicki ac mae hi’n derbyn archebion ar lein. Mae’r archebion yn cael eu pacio’n ofalus iawn. Felly, os oes diddordeb gyda chi i brynu, cysylltwch â hi ar www.westonssalvias.co.uk neu westonssalvias@gmail.com. Chewch chi mo’ch siomi!