Cymanfa’r CFfI yn codi arian i MND

Cynhaliwyd cymanfa swyddogion CFfI Ceredigion yng Nghapel Pisgah, Talgarreg ar 12 Mawrth

Endaf Griffiths
gan Endaf Griffiths
Cymanfar-Ffermwr-Ifanc

Cafwyd noson hyfryd yng Nghapel Pisgah, Talgarreg nos Sul, 12 Mawrth yng Nghymanfa Ganu Brenhines y Sir a Ffermwr Ifanc y Flwyddyn.

Llongyfarchiadau a diolch i drefnwyr y noson, sef tîm presennol CFfI Ceredigion o lysgenhadon (2022-23) – Cennydd Jones, Rhiannon Davies, Bleddyn Davies, Eiry Williams, Lowri Jones a Heledd Besent.

Cafwyd digon o hwyl a chanu o dan arweiniad aelodau o wahanol glybiau ledled y sir (Sara Davies, CFfI Pontsiân; Mared Lloyd-Jones, CFfI Llanddewi; Endaf Griffiths, CFfI Pontsiân; Dafydd James, CFfI Troed-yr-aur, a Sioned Caryl, CFfI Llanwenog). Cafwyd hefyd eitemau amrywiol gan aelodau o Glybiau Pontsiân a Chaerwedros.

Yn canu’r organ roedd Meinir Jones (sydd â chysylltiad agos â Ffermwr Ifanc y Flwyddyn, Cennydd Jones!) a’r chwaraewr drymiau oedd Thomas Jones.

Rhoddwyd y fendith gan y Parchedig Carys Ann.

Bydd yr holl arian a godwyd wrth y drws yn mynd i @myname5doddie – elusen sy’n agos at galonnau llawer.