Digwyddiadau Di-ri’r Fenter

Dwy ŵyl a ras ar y gweill i Fenter Gorllewin Sir Gâr

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Gŵyl Fach Newy’ 24.6.23 Castell Newydd Emlyn

Yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl Castell Newydd Emlyn a’r ardal i weld beth oedd eu dyheadau am ddigwyddiad cymdeithasol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn falch i gyhoeddi y byddwn yn cynnal Gŵyl Fach Newy’ ar Ddydd Sadwrn 24ain Mehefin ym mharc y dref a gweithgareddau amrywiol yn ystod yr wythnosau blaenorol.  I ddechrau’r ŵyl byddwn yn cynnal Cystadleuaeth Gelf yn agored i blant ac oedolion ac mi fydd yr enillwyr yn cael eu harddangos am bythefnos yn llyfrgell y dref.

Byddwn yn trefnu Helfa Drysor o amgylch y dref a bydd pobl yn gallu ei gwneud yn eu hamser eu hunain yn ystod wythnos yr ŵyl.  Bydd y ras hanesyddol, Ras Bryndioddef, yn cael ei chynnal ar nos Fawrth 20fed Mehefin ac yna bydd yr wŷl ei hun yn digwydd ar Dydd Sadwrn 24ain Mehefin, lle bydd cystadleuaeth gwisg ffansi, mabolgampau, gemau, peintio wyneb a mwy.   Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod i’r teulu cyfan ac mi fydd croeso cynnes i bawb.  Os hoffech gyfle i wirfoddoli gyda’r fenter yn yr ŵyl, mae croeso i chi gysylltu gyda nia@mgsg.cymru

Gŵyl Canol Dre 8.7.23

Mae Gŵyl Canol Dre yn digwydd eleni ar y 8.7.23 ar gaeau Parc Myrddin yng Nghaerfyrddin, gyda digwyddiadau a gweithgareddau di-ri o 11yb tan 8yh.

Dewch i fwynhau amrywiaeth o berfformiadau ar y ddwy lwyfan. Ar y brif lwyfan, cewch gyfle i glywed grwpiau ac artistiaid megis Gwilym, Eden ac Yws Gwynedd ac ar y Llwyfan Berfformio, bydd perfformiadau gan ysgolion lleol ynghyd â sioeau gan Siani Sionc a Mewn Cymeriad.

Yn yr amryw o bebyll o gwmpas yr ŵyl, bydd sesiynau stori, gweithgareddau creadigol, cyflwyniadau, gweithdai dawns a llenyddol a llawer mwy yn rhan o’r arlwy. Bydd cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau yn yr ardal chwaraeon a bydd amrywiaeth o stondinau yna’n gwerthu nwyddau. Gallwch hefyd weld y ceisiadau fydd wedi dod i’r brig yn ein cystadleuaeth gelf. Bydd dewis helaeth o fwyd a diod yn ogystal â bar.

Diolchwn yn fawr i’n prif noddwyr Cyngor Tref Caerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Castell Howell, Tai Wales & West a National Grid am noddi ardaloedd yr ŵyl.

Dewch yn llu i fwynhau diwrnod llawn sbort a sbri, a’r cyfan AM DDIM!

Ras yr Iaith 22.6.23-San Clêr

Ar yr 22ain o Fehefin bydd Ras yr Iaith yn digwydd ar draws Cymru gyfan, gyda phawb yn rhedeg ar yr un amser. Bwriad y ras yw annog a hybu’r iaith Gymraeg yn ein Cymunedau ar draws Cymru gyfan. Mae’n gyfle da yn ogystal i bawb ddod at ei gilydd i wneud ymarfer corff ac i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r ras yn cael ei chynnal mewn sawl tref, ac mae Menter Gorllewin Sir Gâr wedi penderfynu cynnal ein ras ni yn San Clêr. Mi fydd ysgolion yr ardal ac unigolion y gymuned yn ymuno ar y daith, wrth gerdded a rhedeg gyda ni.  Mae croeso i chi ymuno yn yr hwyl a dod i San Clêr i’n cefnogi.