Fformiwla 1 yn Llanbed!!

Sioe Geir yn Llanbed i godi arian i Unedau Triniaeth Cancr

gan Anthea C Jones

Ar Ddydd Sul 8fed Hydref eleni, bydd hi’n ddiwrnod hanesyddol yn Llanbed oherwydd cynhelir Sioe/Taith Geir ar Gampws y Brifysgol yn Llanbed. Beth sydd mor arbennig am hyn ddwedwch chi – wel, un o uchafbwyntiau’r dydd yw fod car Fformiwla 1 yn cael ei arddangos, diolch i James Belton o gwmni JB and Son Civil Engineering, Sir Benfro. Mae’n weddol sicr mai hyn fydd y tro cyntaf i ni weld car Fformiwla 1 yn Llanbed, felly gobeithio y bydd yn denu chi i gyd i’r Coleg ar y diwrnod.

Trefnir y digwyddiad gan Anthea a Dai Jones yn bennaf, ac ynghŷd â dathlu eu penblwydd priodas 30 mlynedd eleni, maent yn dathlu 30 mlynedd o laesâd ei mam Dorothy ers iddi gael diagnosis o gancr y fron ym 1992, Cafodd fastectomi ac yn ystod 1993, cafodd driniaeth cemotherapi a radiotherapi, ac mewn gwirionedd roedd yng nghanol y cemotherapi yn ystod cyfnod priodas Anthea a Dai ym mis Mai 2023. Dyddiad oedd y ddau am ei newid tan iddi orffen y driniaeth, ond ei phenderfyniad oedd parhau’n ddewr â’r trefniadau fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.

Cafodd Dorothy hefyd ei hurddo’n Faer y Dref yn yr un flwyddyn, ac er waethaf y driniaeth a’r salwch, ni wnaeth fethu unrhyw ddigwyddiad yn rhinwedd ei swydd yn ystod y flwyddyn – ymroddiad yng ngwir ystyr y gair.

Ers hynny, mae’r cancr hwn wedi effeithio ar lawer o ffrindiau ac aelodau o’r teulu, ac yn Llanbed ei hun, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae llawer wedi cael diagnosis drwy wasanaeth sgrinio’r fron ac wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr Uned yn Ysbyty Tywysog Siarl yn Llanelli.

Rydym felly mewn dyled i’r gwasanaeth, yn enwedig Uned Gofal Cancr y Fron yn Ysbyty’r Tywysog Phillip yn Llanelli, a chyn bo hir gobeithio ein Huned Cemotherapi ein hunain ym Mronglais yng Ngheredigion.

Hefyd fel rhan o’r Sioe/Taith Geir, bydd Raffl Fawr, gyda gwobr gyntaf hael o £500!! yn rhoddedig gan Glwb Moduro Llambed a’r Cylch cyf, sydd wedi bod yn garedig iawn ac wedi cyfrannu cyfanswm o £1,100 yn barod i’r achos. Mae eu haelioni i’w gymeradwyo, ynghŷd â phawb arall sydd eisoes wedi rhoi a/neu helpu ym mhob ffordd bosibl. Rydym mor ffodus i fyw mewn cymuned glos fel Llanbed sydd bob amser yn barod gyda’u caredigrwydd.

Bydd Ocsiwn ar y dydd hefyd ac mae eitemau ffantastig i’w gwerthu yn barod e.e. taith mewn awyren i 3 pherson o Aberporth, noson i ddau mewn carafan ym Mharc Gwyliau Pencnwc, noson i 2 yng Ngwesty’r Vale, Caerdydd, tocynnau rygbi un o gêmau Rhyngwladol Cymru 2024 gyda lletygarwch yn yr Angel, talebau diri, arwydd Cwmderi wedi’i lofnodi gan actorion Pobol y Cwm i enwi rhai yn unig….

Gobeithio’n wir y byddwch chi i gyd yn fodlon cefnogi mewn unrhyw fodd posibl, boed yn gyfraniad, prynu raffl, mynychu ar y dydd, neu gefnogi’r ocsiwn.

Diolchir i bawb ymlaen llaw a gweddïr na fydd yr un ohonom angen gwasanaethau’r unedau hyn, ond yn teimlo ein bod wedi chwarae ein rhan i helpu eraill drwy’r digwyddiad.