Helpwch i ddarganfod Cynhanes Ceredigion!

Cloddio ar safle ger Talsarn a cheisio datgelu rhagor o hanesion cudd

gan Dafydd Arwel Lloyd

Cyn hir, bydd gwirfoddolwyr o’r gymuned leol, a rhai gwesteion arbennig, yn ymuno â staff a myfyrwyr Campws Llambed Y Drindod Dewi Sant wrth iddynt geisio datgelu rhagor o hanesion cudd Ceredigion, yn rhan o brosiect Portalis Project.

Rhwng y 24ain o Ebrill a’r 26ain o Fai 2023, bydd Elin Jones (Aelod o’r Senedd) a Ben Lake (Aelod Seneddol) ymhlith nifer o gyfranogwyr a fydd yn ymuno ag arbenigwyr archeolegol Y Drindod Dewi Sant wrth iddynt ddychwelyd i gloddio safle ger Talsarn, yn Nyffryn Aeron.

Yn 2022, dan arweiniad yr Athro Martin Bates, gwnaeth tîm o ymchwilwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr cymunedol Portalis Y Drindod Dewi Sant ddarganfod nifer o arteffactau, gan gynnwys cyfres o offer carreg yn dyddio o adeg cyn i ffermwyr gyrraedd Ceredigion; cyfnod a elwir gan archeolegwyr yn Fesolithig.

Ochr yn ochr â’r gwaith hyn, mae tîm archeolegol Portalis Y Drindod Dewi Sant hefyd wedi bod yn dadansoddi creiddiau a gymerwyd yn agos i’r safle, lle ceir mawn mewn ardaloedd a fyddai wedi bod yn wlyb yn y gorffennol.  Mae’r tîm yn gwybod erbyn hyn fod y mawn hwn yn dyddio o bron i 12,000 o flynyddoedd yn ôl ac yn cynnwys cofnod o’r newid mewn llystyfiant sy’n dogfennu nid yn unig y cyfnod ôl-rewlifol cynnar iawn ond sydd hefyd yn cofnodi newidiadau’n gysylltiedig â’r Oes Haearn.

Meddai’r Athro Martin Bates, Academaidd Arweiniol Y Drindod Dewi Sant ar brosiect Portalis:

“Rydym yn dechrau deall tirweddau iseldir Ceredigion mewn ffordd na wnaethpwyd o’r blaen. Gallwn weld effaith ein cyndeidiau’n amlwg ar llystyfiant yn Nhalsarn, yn ogystal â’n safleoedd astudio eraill yn Llanrhystud a Borth, a gallwn ddechrau dyfalu sut y bu’r bobloedd gynnar hyn yn defnyddio’r llefydd hyn ar wahanol adegau yn ystod y gorffennol.”

Ychwanegodd Dr Samantha Brummage, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol Portalis:

‘Llanllyr yw un o’r ychydig safleoedd Mesolythig a gloddwyd yng Ngheredigion – mae ein gwaith yma’n rhoi cyfle cyffrous ac unigryw i ni ddeall cynhanes cynnar yr ardal hon.’

Mae cloddiad 2023 yn addo datgelu mwy fyth o gyfrinachau. Os hoffech gymryd rhan, gallwch ymuno ag archeolegwyr Portalis y Brifysgol yn y maes.

Mae staff y prosiect yn cloddio nes ddiwedd mis Mai ac fe estynnir croeso i wirfoddolwyr ar ddydd Llun i ddydd Gwener o 24ain Ebrill i 5ed Mai ac ar ddyddiau Gwener yn unig o’r 12fed i’r 26ain Mai. Defnyddiwch y dolenni isod i gofrestru a dewch i ymuno â’n prosiect cyffrous.

https://portalisarchaeologicalexcavationdiscover.eventbrite.co.uk/

At hyn, os mai ysgol/goleg neu grŵp ydych chi, gallwch gofrestru i gael taith o gwmpas y safle a dysgu rhagor am archaeoleg a hanes Dyffryn Aeron.

https://portalisarchaeologicalexcavationlearn.eventbrite.co.uk

Prosiect peilot trawsffiniol a thraws-ddisgyblaethol yw Portalis sy’n archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng Cymru ac Iwerddon.  Gyda chefnogaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy raglen Iwerddon Cymru, mae Portalis yn mapio stori’r daith gyntaf a gymerodd pobl rhwng Iwerddon a Chymru, gan ddyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig.

Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuno tystiolaeth bresennol â data newydd i ddatblygu naratif trawsffiniol grymus, ar gael i’w weld mewn profiad newydd i ymwelwyr yn Amgueddfa Drysorau Waterford, Iwerddon, ac Amgueddfa Ceredigion, Cymru.

Nod y prosiect gwerth €1.95 miliwn, a gefnogir gan €1.5m gan Grofa Datblygu Rhanbarthol Ewrop – trwy raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru – yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltiad cynaliadwy cymunedol a busnes, gan arwain at sefydlu dau rwydwaith twristiaeth a diwylliannol drwy brofiadau yng Nghymru ac Iwerddon.