Llanybydder yn Bencampwyr y Gynghrair!

Clwb Hoci Llanybydder heb golli’r un gêm yn ystod y tymor!

gan Elin Calan Jones

Yn dilyn tymor hynod lwyddiannus, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod yn bencampwyr y gynghrair ac wedi ennill dyrchafiad ar gyfer y tymor nesaf.

Cyrhaeddodd 92 gôl gefn y rhwyd – enillwyd 13 gêm, dwy gêm gyfartal a heb golli’r un! Tipyn o gamp!

Diolchwn i’r chwaraewyr am eu hymroddiad yn ystod y tymor, i’n noddwyr am eu haelioni eleni eto ac i’n cefnogwyr ffyddlon fel arfer. Edrychwn ymlaen ar gyfer yr her ym mis Medi.

Er ein bod wedi cau pen y mwdwl ar y gynghrair erbyn hyn, mae un gêm bwysig ar ôl gyda ni.  Ie, FFEINAL Y CWPAN! Yn erbyn Penarth, dydd Sadwrn yma (20.05.23) gêm i ddechrau am 10.30yb, Elba Sports Complex Tregŵyr SA4 3GE

Dewch i’n cefnogi!