Llewod yn fuddugol yn Llandysul

Gemau cyfeillgar Llewod Llambed yn erbyn Tysul 30/01/23

Gwawr Bowen
gan Gwawr Bowen

Ar nos Lun y 30ain o Ionawr teithiodd tîm ieuenctid a hŷn Llewod Llambed i Ysgol Bro Teifi i wynebu Clwb Pêl-rwyd Tysul mewn gemau cyfeillgar. Cawsom i gyd groeso cynnes a diolch i Heather, Ann a’r holl chwaraewyr am drefnu’r noson.

Gêm Ieuenctid

Gwelwyd perfformiad gwych gan y tîm sef Lyra (capten), Gabriella, Annie, Carys, Violet, Dwynwen, Megan a Chloe, dan arweiniad arbennig y ddwy hyfforddwraig ifanc Martha a Beca. Chwaraeodd y merched bêl-rwyd grêt yn erbyn tîm cyflym a sionc (a thal) Tysul.

Tysul oedd y ceffylau blaen o ddechrau’r gêm ond ar ôl i Martha a Beca wneud newidiadau tactegol ni chymerodd sbel i’r Llewod i ddal lan a phasio Tysul ar y bwrdd sgorio. Rhaid dweud roedd ymdrech y merched yn anhygoel gan ystyried taw ond un eilydd oedd ganddynt i gymharu â charfan anferth Tysul. Ar ôl 4 chwarter y Llewod aeth ar fuddugoliaeth. Gan fod ychydig o amser sbâr i gael penderfynwyd chwarae un chwarter bonws! Rhoddodd hwn y siawns i garfan Tysul gael ychydig mwy o amser ar y cwrt. Ar ôl awr o chwarae mi roedd merched Llewod yn dechrau blino ac er iddynt roi ymdrech anferth yn y 5ed chwarter llwydodd Tysul i sgoriau goliau ychwanegol.

Y sgôr ar ddiwedd y 4ydd chwarter oedd: Tysul 13 – 19 Llewod.

Diolch i Ann ac Alex am ddyfarnu. Llongyfarchiadau mawr i’r ieuenctid sydd wastad yn chwarae’n frwdfrydig ac yn wên o glust i glust. Maent wir yn datblygu fel tîm ac yn gwella wythnos ar ôl wythnos. Mae’r gemau cyfeillgar yma’n fudd mawr i’r merched ar lefel bersonol ac fel tîm. Diolch mawr unwaith eto i Martha a Beca sydd wedi croesawu eu rolau fel hyfforddwyr gan fagu perthynas gref â’’r chwaraewyr. Mae eu brwdfrydedd a chefnogaeth yn wych! Diolch i’r holl rieni a deithiodd i gefnogi’r merched.

Chwaraewr y gêm – Dwynwen Williams

Chwaraewr yr hyfforddwyr – Annie

Gêm Hŷn

Dan arweiniad profiadol capten clwb a chynghrair, Sara cafodd y Llewod Hŷn (ac Ieuenctid Hŷn) gêm anodd yn erbyn tîm cryf Tysul. Mae bob amser yn anodd rhoi cyfle cyfartal i’r holl chwaraewyr yn eu safleoedd dewisol mewn gêm gystadleuol (ond gyfeillgar!) gan hefyd geisio ennill, ond mae Sara yn hynod o dda yn rhoi’r cyfleoedd cyfartal yna.

Yn y tîm roedd chwaraewyr o’r gynghrair Sara, Gwawr, Martha, Beca, Layla, Alex ac Elonwy, yn ogystal â Lamorna, Elan a Tilly – y tair yn chwarae eu gêm hŷn gyntaf i’r clwb.

Cafwyd gêm gyflym o’r cychwyn gan chwarae chwarteri 15 munud o hyd, ond chwaraeodd y Llewod bêl-rwyd hyfryd yn erbyn tîm Tysul –  gyda bron pob un ohonynt yn chwarae yn y gynghrair.  Rhaid rhoi sylw i Mabli o Dîm Tysul (Chwaraewr gêm ieuenctid Tysul) am chwarae’r chwarter gyntaf gan chwarae yn arbennig o dda er iddi ond fod ym mlwyddyn 8!

Cyfnewidiwyd safleoedd gan nifer o chwaraewyr trwy gydol y gêm er mwyn sicrhau i bawb cael digon o amser ar y cwrt. Fel yr arfer roedd gêm ymosodol y Llewod yn sionc a chraff gyda Layla, Beca a Martha yn cael y bêl i’r D ar sawl achlysur. Saethwyr yn ystod y gêm oedd Sara, Layla, Alex, Elonwy a Tilly – goliau grêt ond nid oedd wastad yn hawdd cael y goliau yn erbyn GK Tysul a oedd yn 6 troedfedd. Profodd ei mantais taldra hefyd yn fantais wrth amddiffyn y goliau adlam. Roedd y Llewod hefyd yn gryf gada’u hamddiffyn gydag Elan, Gwawr, Tilly, Sara, Lamorna ac Alex yn chwarae GK/GD/WD ar ryw bwynt yn ystod y gêm. Ar y cyfan perfformiad solet gan y Llewod gan weithio’n rhagorol fel tîm. Heb os cyfle gwych i’r chwaraewyr llai profiadol i fod yn rhan o gêm gyflymach, fwy tactegol gan obeithio y byddant yn mwynhau gwneud y cwbl eto nos Llun nesa! Diolch anferth i Lynn ac Ann am ddyfarnu.

Sgôr terfynol – Tysul 26 28 Llewod.

Layla yn cael chwaraewr y gêm am y 5ed tro – tipyn o gamp!

Chwaraewr y capten – Beca

Nodyn wrth y capten – Da iawn i Lamorna am gamu i fyny ar ôl ond dechrau chwarae ychydig o fisoedd yn ôl.

Diolch eto i bawb a gymerodd ran, am wneud y gemau yn brofiad gwych!