Llwyddiant ‘Ladies Day’

Y clwb dan ei sang o fenywod yn codi arian.

Gwawr Bowen
gan Gwawr Bowen
6063B054-5387-4EF9-A0E7
E7A08843-559C-467E-AA56
6063B054-5387-4EF9-A0E7
C88EFE30-D4AA-4A0D-807B

Wythnos ddiwethaf cynhaliwyd ‘Ladies Day’ yng Nghlwb Rygbi Llambed. Braf oedd gweld y clwb dan ei sang o fenywod yn mwynhau yng nghwmni ei gilydd.

Bu cryn dipyn o baratoi tuag at y dydd a braf oedd gweld yr holl baratoi yn talu ffordd wrth weld pa mor llwyddiannus oedd y diwrnod. Prynhawn llawn cymdeithasu, joio a chodi arian.

Yn ystod y digwyddiad codwyd £600 o arian tuag at yr elusen Tommy’s sydd yn ariannu ymchwil hanfodol i gam-esgor, marw-enedigaeth a genedigaeth gynamserol er mwyn parhau i achub bywydau babanod. Achos sydd yn agos iawn tuag at galonnau llawer.

Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd tuag at y raffl neu i’r diwrnod mewn unrhyw ffordd. Mi roedd y gefnogaeth yn arbennig.