Llwyddiant CFfI Llanwenog ym Môn

Daeth llwyddiant i’r clwb yn Eisteddfod Cymru

gan Elen Morgan
91384b81-8c97-439d-a8f9

Criw Meimio i gerddoriaeth y clwb yn barod i berfformio

f95decf3-d4c9-4165-a26f

Y Parti Unsain yn cystadlu ar y llwyfan.

Ar ddydd Sadwrn Tachwedd 18 cynhaliwyd Eisteddfod Cymru yn Sir Fôn. Aeth criw da o aelodau a chefnogwyr i fyny.

Roeddem yn cynrychioli Sir Ceredigion mewn tair cystadleuaeth a daeth llwyddiant i ni ym mhob un ohonynt.

Llongyfarchiadau i’r Meimio i Gerddoriaeth a’r Parti Unsain a ddaeth yn drydydd. Hefyd llongyfarchiadau mawr i Glesni Rees a gipiodd yr ail safle yn y gystadleuaeth gwaith cartref sef reel i hyrwyddo cynnyrch amaethyddol.