Llwyddiant Rali Bro Caron a ddechreuodd o Lambed neithiwr

Andy Davies a’i gyd yrrwr Michael Gilbey yn ennill Rali Bro Caron

Gary Jones
gan Gary Jones
50B25662-DDB6-496C-A6C4

Rali Bro Caron: y car cynta yn gadael Gwesty’r Llew Du yn Llambed Andy Davies a Michael Gilbey yn y Subaru Impreza. Llun gan Gary Jones.

E94485C0-C3AF-41D1-B10B

Lee Plant o Lambed yn gweithio y route mas cyn y dechrau ar y Rookery. Llun gan Gary Jones.

Neithiwr cynhaliwyd 40fed Rali Bro Caron gyda’r ceir yn gadael Gwesty’r Llew Du, Llambed ac ymlwybro’n gyflym ar hyd tua 100 o filltiroedd hewlydd bach yr ardal.

Enillodd Andy Davies gyda i gyd yrrwr Michael Gilbey Rali Bro Caron neithiwr yn y Subaru o 1 eiliad. Daeth Arwel Hughes Jones a Dylan John Williams yn yr Escort mk2 yn ail gyda John Davies ac Eurig Davies yn trydydd mewn Vauxhall Astra.

Dywedodd Andy Davies “Fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, mae gan Rali Bro Caron le arbennig yn fy nghalon. I ddechrau ar #1 a chael y fuddugoliaeth driphlyg heddiw, ar y digwyddiad pen-blwydd 40 yn rhywbeth na wnes i erioed freuddwydio amdano.”

Ychwanegodd “Mae gwneud y tri ochr yn ochr â Mike, yn dangos pa mor gryf yw partneriaeth. Roedden ni’n gwybod mai heno fyddai’r prawf eithaf. Ffyrdd sych, cyn lleied â phosibl o wyn, a’r mynediad cryfaf i’r rali ffordd y gallaf ei gofio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn rhaid i ni fynd, ac roedd yn rhaid i ni fynd yn galed. Efallai ein bod yn hunanfodlon yn yr hanner cyntaf heb sylweddoli pa mor gyflym y byddai pawb yn mynd, ond fe wnaethom ddihuno yn glou a thynnu ein bys mas. Gwthiodd Mike fi ymlaen, fel na fyddech chi’n credu.”

Trefnwyd y rali gan aelodau Clwb Moduro Llambed.  Mae mwy o luniau gennyf ar fy ngwefan.