Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Darllenwch fwy am ddigwyddiadau diweddaraf y Fenter Iaith

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru.

Paned a Sgwrs:

Mae’r Fenter wedi dod yn rhan o sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, pob ddydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl i ymuno. I gofrestru, cysylltwch gyda betsan@mgsg.cymru.

Sesiynau stori:

Rydym yn cynnal sesiynau stori bob pythefnos mewn tair ardal sef Caerfyrddin, Maesycrugiau/Llanllwni a San Clêr. Y dyddiadau nesaf ar gyfer ein sesiwn yn Llyfrgell Caerfyrddin am 10:30am fydd 15fed o Fai. Yn Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni am 10:30am, y dyddiadau nesaf fydd yr 2il ar 16ain o Fai. Yn Y Gât San Clêr am 1:30pm y dyddiadau fydd y 4ydd a’r 18eg o Fai. Cysylltwch gyda luned@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Teithiau Bygi:

Mae ein teithiau bygi yn ôl! Rydym yn ail-gychwyn ein teithiau bygi yng Nghaerfyrddin, Castell Newydd Emlyn ac Hendygwyn ar Daf.

Byddwn yn cwrdd ym Mharc Caerfyrddin am 10:30yb ar y 24ain o Ebrill, yr 8fed a’r 22ain o Fai. Byddwn yn cwrdd yng Nghae Chwarae Brenin Sior V yng Nghastell Newydd Emlyn am 10:30yb, ar y 25ain o Ebrill, 9fed a’r 23eg o Fai. Byddwn yn cwrdd ym Mharc Dr Owen yn Hendygwyn am 10:30yb ar y 27ain o Ebrill, yr 11eg a’r 25ain o Fai. I gofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda luned@mgsg.cymru .

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag betsan@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Clwb Garddio:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cered – Menter Iaith Ceredigion i drefnu Clwb Garddio yn Yr Ardd, Pont Tyweli. Pob ail ddydd Sadwrn y mis o 11yb-1yp. Cyfle i blannu a thyfu llysiau, ffrwythau a blodau. Croeso i bawb; oedolion a theuluoedd (angen oedolyn yn bresennol gyda phlant a phobl ifanc o dan 18 oed). I gofrestru: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk neu ymholiad@mgsg.cymru

Paned a phapur:

Cynhelir y sesiynau Paned a Phapur yn Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre ar ddydd Mercher pob pythefnos. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda luned@mgsg.cymru.

NEWYDD* Clwb Rhedeg:

Rydym wedi penderfynu cychwyn Clwb Rhedeg yng Nghaerfyrddin yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd. Mae’n gyfle i gymdeithasu ac i redeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dechreuodd y clwb ar 17.4.23 a daeth nifer fawr at ei gilydd i fwynhau’r sesiwn.  Mi fydd y clwb yn digwydd yn wythnosol a byddwn yn cwrdd am 6yh ger eglwys San Pedr ac ni chodir tâl i fynychwyr. Mae angen bod yn 18+ i fynychu. I gofrestru, cysylltwch gyda betsan@mgsg.cymru.

Gig yr Atom Caerfyrddin yn rhan o daith y Mentrau Iaith Cymru a PYST:

Ar y 6ed o Ebrill, croesawodd Menter Gorllewin Sir Gâr a’r Atom, HMS Morris, Mali Hâf a Gwilym Rhys Williams i’r Atom Caerfyrddin fel rhan o daith a drefnwyd gan Mentrau Iaith Cymru a PYST. Bu’n noson hwylus iawn gyda phawb wedi mwynhau, a diolchwn yn fawr iawn i bawb wnaeth ymuno gyda ni.

Helfeydd Wyau Pasg:

Dros wyliau’r Pasg, buom yn trefnu helfa wyau Pasg yn San Clêr a Chastell Newydd Emlyn. Bu wyau Pasg a llythrennau yn cuddio yn amryw o siopau’r trefi, ac roedd angen i’r mynychwyr eu darganfod nhw a dod o hyd i’r geiriau cudd.

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan, a llongyfarchiadau i’r enillwyr. Hefyd, diolch yn fawr iawn i Sbar San Clêr a Premier Castell Newydd Emlyn am roi’r gwobrau.

Yng Nghaerfyrddin, bu Menter Gorllewin Sir Gâr a’r Atom gyda chefnogaeth Bid Caerfyrddin yn brysur gyda Helfa Pasg Stryd y Brenin yn ystod wythnos gyntaf y gwyliau Pasg. Roedd cyfle i ennill gwobr bob dydd o’r wythnos honno, a da iawn i’r enillwyr ac i bawb wnaeth gymryd rhan.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.