Hwb Rygbi Merched yn dod i fan geni rygbi yng Nghymru

Hwb rygbi merched gyda thimoedd o dan 12 i dan 18 yn cael ei sefydlu yn Llambed

Cerian Jenkins
gan Cerian Jenkins

Llambed oedd lleoliad gêm rygbi cyntaf yng Nghymru yn 1866 ond mae’r dref nawr yn edrych i’r dyfodol wrth i hwb rygbi merched gael ei sefydlu yno. Bydd yr hwb yn cynnwys timoedd dan 12, 14, 16 a 18 efo llwybr i chwaraewyr wedyn mynd ymlaen i chwarae i dîm menywod Llambed.

Mae hybiau’r WRU yn amgylcheddau rygbi merched gyda grwpiau oedran yn gallu amrywio o dan 7 hyd at dan 18 ac yn rhoi siawns i ferched ddal ati i chwarae rygbi ar ôl gorffen efo oedrannau’r tîm rygbi cymysg. Bydd yr hwb a’r timoedd ynddo yn cael ei alw yn ‘Teifi Timberwolves’ ac yn ymuno’r 37 hwb arall sydd yn barod wedi cael eu sefydlu yng Nghymru.

“Y rheswm nes i wthio mor galed i gael yr hwb yw achos mae’n llwybr i ferched i fynd ymlaen i chwarae i dîm menywod yn y dyfodol a gan fod y WRU yn gostwng oedran rygbi cymysg o dan 13 i dan 11 felly mae’n rhaid i ferched mynd i hwb i chwarae ar ôl 11. Llambed oedd yr unig ochr menywod yng Nghymru heb hwb i’w cefnogi felly roedd yn bwysig i wthio am un. Y nod nawr yw adeiladu’r niferoedd yn yr hwb ac i greu llwybr llwyddiannus o’r ‘minis’ i’r menywod.” – Reth Davies, hyfforddwr tîm menywod Llambed a chadeirydd yr hwb.

Nid yw’r hwb yn dechnegol yn rhan o’r clwb rygbi gan fod rhaid bod yn endid ar wahân, ond bydd cysylltiad cryf rhwng yr hwb a’r clwb gyda’r tîm hyfforddi a‘r tîm tu ôl i’r llenni yn cynnwys Carys Schofield a Branwen Lewis, capten a chyn-gapten y tîm menywod, yn rhan o’r tîm hyfforddi. Hefyd mae Nerys Davies, sef sylfaenydd a chyn-gapten y menywod, yn actio fel arweinydd yr hwb.

“Dw i eisiau diolch i’r WRU am y cyfle ac am y gwaith caled gan bawb oedd yn rhan o ddod â’r hwb i Lambed.” – Reth Davies

Bydd y sesiynau ymarfer yn cael eu cynnal ar Gaeau Cwmann SA48 8DU ar yr amserau yma:

  • Dan 12 (bl.6/7): Nos Fawrth 6yh
  • Dan 14 (bl.8/9): Nos Wener 6yh
  • Dan 16 (bl.10/11): Nos Wener 6yh
  • Dan 18: Nos Fawrth 7yh

Bydd hefyd sesiwn hwyl a barbeciw ar nos Wener 15fed o Fedi am 6yh yn Clwb Rygbi Llambed ar gyfer unrhyw un â diddordeb yn ymuno â’r hwb.

Cysylltwch â Nerys ar 07792940910 am fwy o wybodaeth.