Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: Dydd Mercher

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Ymunwch â ni ar gyfer bwrlwm ail ddiwrnod Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024.

14:08

A dyma nhw…

Bardd hŷn – Meredydd, Dulas

Bardd iau – Glesni, Teifi

Llongyfarchiadau gwresog! 

13:54

Beirniad y gadair iau ac hŷn yw Gwennan Evans.

13:51

Y llwyfan yn barod ar gyfer seremoni’r cadeirio…

13:40

Meim Creuddyn i orffen y gystadleuaeth wych! 

13:36

Meim Dulas – anhygoel! 

13:19

Meim Teifi. Thema’r meim oedd y degawdau. Hollol wych! 

13:11

Canlyniad y dawnsio. Gwledd yn ôl y beirniaid!

1af – Creuddyn 

2il – Teifi

3ydd – Dulas

13:08

Ein beiriniaid anrhydeddus:

Cerdd: Sara Elan Jones

Llefaru: Gwennan Jenkins

Yn sicr, maent yn cael gwres eu traed!
Diolch o galon am yr holl waith caled.

13:06

Cywiriad i’r enwau buddugol yn y goron hŷn.

12:28

Cystadleuaeth liwgar iawn cyn torri am ginio – y ddawns.

Llond llwyfan gan bob tŷ chwarae teg a chystadleuaeth poblogaidd iawn. 
Ymunwch â ni ar ôl cinio am y canlyniad!