Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: Dydd Mercher

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Ymunwch â ni ar gyfer bwrlwm ail ddiwrnod Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024.

10:22

Llond lle o chwerthin yn y neuadd cyn i ni dorri am egwyl – y sgetsys. Ydych chi’n medru adnabod rhai o’r athrawon sy’n ymddangos? 

10:20

Canlyniad arall newydd ei gyhoeddi – Llefaru Unigol Iau

1af – Trystan, Dulas

2il – Elen, Creuddyn

3ydd – Glesni, Teifi

Llongyfarchiadau i chi!

10:15

Canlyniad yr Unawd Merched Iau

1af – Efa, Dulas

2il – Fflur, Dulas

3ydd – Tirion, Creuddyn

Llongyfarchiadau gwresog ferched!

09:51

Tri o flwyddyn 9 yn mentro ar y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth Llefaru Unigol Iau – Trystan, Glesni ac Elen. Sbectol Hud gan Mererid Hopwood oedd y gerdd.

09:45

Canlyniad y grŵp llefaru. Cystadleuaeth safonol ac agos iawn yn ôl y beirniad, Gwennan Jenkins.

1af – Teifi

2il – Dulas

3ydd – Creuddyn

09:40

Unawd merched iau sydd ar y llwyfan nawr. Tirion, Fflur ac Efa’n canu Adre gan Caryl Parry Jones. Da iawn ferched! 

09:37

Canlyniad cyntaf y bore yw’r unawd bechgyn iau.

1af – Trystan, Dulas

2il – Brychan, Dulas

3ydd – Ethan, Teifi

Llongyfarchiadau fechgyn!

09:30

Partïon llefaru safonol dros ben gan y tri tŷ! Y darn gosod oedd Colli Iaith gan Harri Webb.

09:18

Brychan, Trystan ac Ethan yn canu unawdau swynol iawn. Unawd Bechgyn Iau – Ar Lan y Môr. 

09:07

Pawb yn eistedd yn eiddgar yn eu seddi â Mrs Gregson yn croesawu pawb i’r Eisteddfod. Pob lwc bawb!