Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: Dydd Mercher

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Ymunwch â ni ar gyfer bwrlwm ail ddiwrnod Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024.

13:11

Canlyniad y dawnsio. Gwledd yn ôl y beirniaid!

1af – Creuddyn 

2il – Teifi

3ydd – Dulas

13:08

Ein beiriniaid anrhydeddus:

Cerdd: Sara Elan Jones

Llefaru: Gwennan Jenkins

Yn sicr, maent yn cael gwres eu traed!
Diolch o galon am yr holl waith caled.

13:06

Cywiriad i’r enwau buddugol yn y goron hŷn.

12:28

Cystadleuaeth liwgar iawn cyn torri am ginio – y ddawns.

Llond llwyfan gan bob tŷ chwarae teg a chystadleuaeth poblogaidd iawn. 
Ymunwch â ni ar ôl cinio am y canlyniad! 

12:22

Rhai lluniau ychwanegol o’r seremoni coroni…

12:18

Rhai lluniau ychwanegol o sereno i’r coroni…

12:16

CANLYNIADAU’R CORONI SAESNEG

Coroni’r Bardd Saesneg Iau

1af – Lyra, Teifi

2il – Annie, Dulas

3ydd – Glesni, Teifi

Pwyntiau safon – Elin, Dulas, Fflur Meredith, Dulas a Carys, Dulas

Coroni’r Bardd Saesneg Hŷn

1af – Elen, Creuddyn

2il – Harri, Dulas

3ydd – Teleri, Teifi

Pwyntiau Safon Zoe, Teifi, Erin, Teifi ac Iestyn, Dulas

Llongyfarchiadau mawr iawn i chi gyd. Tipyn o gamp a chanmoliaeth arbennig wrth y beirniad Siân Vivian

12:12

Canlyniad y llefaru hŷn:

1af – Erin, Teifi

2il – Elen, Creuddyn

3ydd – Charley, Teifi a Megan, Creuddyn

11:37

Siân Vivian yn rhoi beirniadaeth y goron. 

11:29

Canlyniad y ddeuawd.

1af – Erin a Teleri, Teifi

2il – Trystan a Brychan, Dulas

3ydd – Ffion a Marged, Creuddyn

Y darn gosod oedd Calypso.