Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: Dydd Mercher

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Ymunwch â ni ar gyfer bwrlwm ail ddiwrnod Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024.

11:29

Canlyniad y ddeuawd.

1af – Erin a Teleri, Teifi

2il – Trystan a Brychan, Dulas

3ydd – Ffion a Marged, Creuddyn

Y darn gosod oedd Calypso.

11:23

Erin, Megan, Charley ac Elen yn mentro ar gystadleuaeth y Llefaru Hŷn. Y darn gosod oedd Tai Unnos gan Iwan Llwyd. Da iawn ferched! 

11:18

Tri deuawd wedi mentro i’r llwyfan. Un o bob tŷ.

Trystan a Brychan, Dulas
Erin a Teleri, Teifi
Ffion a Marged, Creuddyn

11:14

Canlyniad yr Unawd Hŷn.

1af – Erin, Teifi

2il – Harri, Dulas

3ydd – Elan a Marged, Creuddyn

Llongyfarchiadau!

11:10

Canlyniad Llefaru Unigol i Ddysgwyr 

1af – Seirian, Creuddyn

2il – Seth, Creuddyn

3ydd – Oscar, Teifi

Da iawn i chi’ch tri!

11:06

Perfformiad gwych gan ddisgyblion Sgiliau Bywyd a Chanolfan y Bont am hanes Cantre’r Gwaelod. Llobgyfarchiadau mawr i chi gyd – roeddech chi’n wych! 

10:59

Canu swynol iawn gan Elan, Marged, Harri ac Erin yn yr Unawd Hŷn. 
Y merched yn canu Yfory gan Robat Arwyn a Harri’n canu Cân yn Ofer gan Edward H. Dafis.

10:50

Cystadleuaeth gyntaf wedi’r egwyl yw’r llefaru unigol i ddysgwyr. 

Da iawn i Seth, Oscar a Seirian am fentro i’r llwyfan. Y darn gosod oedd ‘Nid blodau sy’n yr ardd’. gan Dorothy Jones.

10:39

Canlyniad cyntaf wedi’r egwyl – Y sgets.

Y beirniad wedi chwerthin “non-stop”!

1af – Teifi

2il – Creuddyn a Dulas

Gwych!

10:22

Llond lle o chwerthin yn y neuadd cyn i ni dorri am egwyl – y sgetsys. Ydych chi’n medru adnabod rhai o’r athrawon sy’n ymddangos?