Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: Dydd Mercher

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Ymunwch â ni ar gyfer bwrlwm ail ddiwrnod Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024.

14:42

Y Cora y’n cloi’r cystadlu am y dydd wrth ganu Dal fy Llaw. Cyfieithiad o’r gân Lean on Me. Gwych gweld cymaint ar y llwyfan yn canu. Da iawn bawb!

14:37

Dyma’r canlyniadau llawn ar gyfer y gadair iau ac hŷn. Llongyfarchiadau i bawb a daliwch ati i ysgrifennu! Canmoliaeth mawr wrth y beirniad, Gwennan Evans.

14:32

Canlyniad y Limrig:

1af – Elan, Creuddyn

2il – Ifan, Teifi

3ydd – Teleri, Teifi

14:30

Canlyniad y frawddeg:

1af – Teleri

2il – Glesni

3ydd – Drws Cwpwrdd

14:08

A dyma nhw…

Bardd hŷn – Meredydd, Dulas

Bardd iau – Glesni, Teifi

Llongyfarchiadau gwresog! 

13:54

Beirniad y gadair iau ac hŷn yw Gwennan Evans.

13:51

Y llwyfan yn barod ar gyfer seremoni’r cadeirio…

13:40

Meim Creuddyn i orffen y gystadleuaeth wych! 

13:36

Meim Dulas – anhygoel! 

13:19

Meim Teifi. Thema’r meim oedd y degawdau. Hollol wych!