Rhai lluniau o Daith Tractorau Ysgol Bro Pedr nos Sul. Doeddwn i ddim byth yn meddwl ’sen i’n aros yn neuadd Ysgol Llambed 42 o flynyddoedd ers i fi fod mewn ’na ddiwetha yn 17 oed. Aneurin Jones odd y prifathro bryd hynny.
Dyma ddatganiad gan Ysgol Bro Pedr,
“Am noson arbennig! Roedd hi’n anhygoel gweld 55 o gerbydau boed yn Dractorau, Ceir, Loriau, Injan Dân, Fans, Pick Ups, Fastracks wedi troi lan i Ysgol Bro Pedr er mwyn cefnogi Taith Nadolig Tractorau a Cheir.
Roedd bwrlwm yn y dref ac roedd hi wir yn deimlad ffantastig gyrru trwy Lanbed ac o gwmpas y pentrefi gyda phawb yn codi llaw a gweiddi – diolch am yr holl gefnogaeth!! Gwych iawn!
Diolch o galon i bawb a fu’n cynorthwyo wrth drefnu yn enwedig i griw hynod o weithgar Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Pedr. Diolch hefyd i’n Prif Noddwr HR Detailing, i’r holl fusnesau a roddodd gwborau i’r Ocsiwn, i’n llywyddion Dai a Gwen Gwarffynnon am feirniadu ac am eu rhodd haelionus. Diolch hefyd i Glwb Rygbi Llambed am y lluniaeth bendigedig.
Rydym wedi croesi’r £3,000 sydd i’w rannu rhwng Tir Dewi ac Adran Amaeth Ysgol Bro Pedr!
Os ydych am roi cyfraniad gallwch wneud trwy’r dudalen Go Fund Me.”
Roedd Peter Davies o Drefach a’i MF135 wedi neud y grand slam ar y daith. Enillodd lechen am y tractor wedi ei addurno orau, llechen am y cerbyd wedi ei addurno orau a thwrci ffres am bencampwr y nosweth.