Cadw’n brysur!

Mae cael diddordebau’n bwysig iawn

Diane White dw i. Dw i’n byw ym Mhencarreg. Bob Dydd Mercher, dw i’n cael gwersi Cymraeg yng Nghanolfan Creuddyn, Llambed. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i. Dw i wedi ysgrifennu ychydig am fy niddordebau. Un peth dw i wedi bod yn gwneud ar hyd y blynyddoedd yw casglu pethau. Pan o’n i`n ifanc, ro’n i`n casglu stampiau, pensiliau, bathodynnau a theganau llygod. Roedd fy ngŵr yn hoffi casglu hen boteli ac yn aml, ro’n ni’n mynd i gloddio poteli.

Ro’n ni hefyd yn hoffi mynd i`r llyfrgell i astudio hen fapiau fel ein bod ni’n gwybod ble i fynd.  Roedd diddordeb gyda fi mewn potiau hufen Fictorianaidd. Felly dechreuais i eu casglu nhw. Dw i wedi casglu dros 300 o botiau hufen erbyn hyn. Cafodd y potiau eu cloddio neu eu prynu mewn ffeiriau hen bethau ledled y wlad.

Nawr dw i`n mwynhau dawnsio llinell a dw i’n mynd bob wythnos. Hefyd dw i’n mwynhau chwarae’r recorder, ond dim ond yn y tŷ. Dros y gaeaf, dw i`n gwneud llawer o wau ar gyfer y teulu ac i fi fy hun. Pan ddaw’r gwanwyn, bydda i’n dechrau garddio eto. Gobeithio bydd e yma’n fuan felly er mwyn i mi allu dechrau ar un arall o fy niddordebau!