Carnifal Llanbed 2024

Diwrnod Braf yn West End Llanbed

Annwen Jones
gan Annwen Jones
4281D5AD-8CE4-4AD6-932C-BBF19F60EA15
92C29C24-0FCF-4739-98D0-0850638D9DB5
BBBDCDE3-1E23-43BE-B0EA-ED2ABF5DA2DF
1C92E439-EEB5-4218-A1A4-944CF399232E
F8075514-97FA-4184-AF00

Awst y 10fed 2024 Diwrnod Carnifal Llanbedr Pont Steffan, a glaw i ddechrau’r bore pan oedd y Criw yn cyrraedd Clwb Rygbi Llanbed yn barod i roi pebyll lan a pharatoi’r cae erbyn y prynhawn. Erbyn amser cinio roedd yr haul yn twynnu a gwefr yn rhedeg dros y dre gyda Ivor a Donna yn gyrru o gwmpas yn rhoi gwybod i’r dref fod y Carnifal ar ddechrau.

Pared o 3 Fflot ar gerbyd a 2 Fflot cerdded, a sawl person wedi gwisgo yn dilyn Fflot y Frenhines gyda Lexi Waller yn frenhines ynghyd â gosgordd o Briallen, Elizabeth, Brandon a Jayden i gyd yn edrych yn smart yn neud eu ffordd trwy’r dref i’r Clwb Rygbi yn Rhewl y Gogledd, Yno yn ein disgwyl oedd y ddau feirniad sef Mrs Anthea Jones a Mrs Llinos Jones, y ddwy â gwaith caled o’u blaenau

Fe gafodd y Maer Mrs Gabrielle Davies y fraint o agor y Carnifal a choroni Brenhines y Carnifal, cyn y beirniadu.

Bechgyn dan 2  Iago Thomas

Merched 2/4     Elin a Anest yn gydradd

Bechgyn 2/4     Samson Morgan

Merched 5/7     Gwen Hopkins

Bechgyn 5/7      Jayden Gilbert

Merched 8/11     Alana

Bechgyn 8/11     Elis Hopkins

Par 11 a thano    Elgan Sion a Mathew Ifan Rees

Merched 11/15    Tia Gilbert

Bechgyn 16/18    Steffan Davies

Par 12/18            Lily-Grace a Carys

Agored dros 18   Gwawr Bowen

Pâr dros 18         Miranda a Samantha

Prif Enillwr       Elis Hopkins (Tin Man)

Prif Enillwr y parau  Elgan Sion a Mathew Ifan Rees

Fflot wedi addurno  1af Grease (Hafan Deg) 2il West End Cafe (Cyngor Dref) 3ydd Wizard of Oz (Llewod Llanbed)

Ar ôl y carnifal fe gawson ni sawl ras i’r plant a ‘r oedolion yn llawn hwyl, wedyn y Taflu Welinton yn cael ei redeg gan Glenda a Mark James a’r prif enillydd oedd Chris Walters.

Wedyn oedd y raffl fawr a noswaith o gymdeithasu a joio yn yr heulwen a hyfryd gweld pawb yn mwynhau.