Cyfrannwch tuag at brosiect newydd Cymunedau Cynaliadwy yn Llambed

IGGC yn chwilio am drigolion i gwblhau holidaur ar gyfer eu prosiect cymunedol newydd yn Llambed.

gan Mari Lewis
Prosiect Cymunedau Cynaliadwy

Prosiect Cymunedau Cynaliadwy gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Cymunedau Cynaliadwy

Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC) yn bwriadu sefydlu prosiect hydwythedd cymunedol yn Llanbedr Pont Steffan a Llanidloes, yn seiliedig ar fodel o ofal a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Solva Care ac a ddyblygwyd yn ddiweddarach yn Aberporth (Gofal Cardi). Bydd y prosiect yn cynnwys cynnal cyfres (ddi-dal) o ddigwyddiadau anffurfiol, hwyliog, cymdeithasol (boreau coffi / gweithgareddau / cerddoriaeth) mewn lleoliadau cymunedol, gyda’r nod o ddenu pobl fregus ac a allai fod yn unig sy’n byw yn y dref.

Bydd ail agwedd o’r prosiect yn cysylltu gwirfoddolwyr ag unigolion a hoffai gael cymorth ychwanegol, megis lifftiau i apwyntiadau ac oddi yno, dosbarthu siopa, cerdded cŵn neu hyd yn oed cael y cyfle i gael cwmni neu sgwrs.

Er mwyn archwilio a fyddai pobl Llanbedr Pont Steffan yn croesawu’r math hwn o brosiect, maent ar hyn o bryd yn cysylltu â grwpiau cymunedol yn yr ardal ac yn gofyn iddynt gwblhau holiadur 5 munud cyflym i’w helpu i archwilio a hoffech weld y math hwn o gymorth ar gael i’ch preswylwyr.

Fe fydden nhw’n ddiolchgar iawn pe gallech lenwi’r holiadur ar-lein sydd i’w weld yma:

Holiadur Cymunedau Cynaliadwy (Llambed)

Mae croeso i chi rannu’r ddolen â’ch ffrindiau, cydweithwyr a rhwydweithiau, neu yn wir unrhywun y credwch a allai helpu i gyfrannu at y prosiect.

Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu wirfoddoli i gyfrannu at y prosiect hwn, cysylltwch â chydlynydd y prosiect, Mari Lewis. Gweler ei manylion cyswllt isod:

Mari Lewis

Swyddog Ymchwil a Datblygu / Cydlynydd Cymunedau Cynaliadwy

Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Ffôn Symudol: 07583696961

Ebost: mari.lewis2@wales.nhs.uk

www.iechydagofalgwledig.cymru / www.ruralhealthandcare.wales