Cynrychioli Cymru ar y beiciau modur

Dau o fechgyn ifanc ardal Llambed i rasio Enduro tros Gymru allan yn Sbaen ganol mis Hydref.

Aled Evans
gan Aled Evans
Llun-ISDE-2024Terry Davies

Carwyn a Sion yn derbyn geiriau o gyngor oddi wrth y meistri; Aled a Calvin.

Aled-a-Calvin-isde

Calvin ac Aled ar frig y gamp nol ar ddechrau’r 80au.

Calvin-isde-19873

Calvin (Rhif 148) yn rasio’r ISDE yng Nghymru nol yn 1983.

9cd348f8-15e8-4c29-816d

Sion yn croesi cors wlyb ar ei feic PAR HOMES.

457042485_1832927253897202

Carwyn (Rhif 42) ar ei feic Gasgas 350cc.

29354361_1216290045172845

Aled (Rhif 22) ar frys yn rasio Endiwro Brechfa nol yn 1980-81.

Tros ddeugain mlynedd yn ôl, ar ddechrau’r 1980au, dewiswyd dau fachgen ifanc o ardal Llambed i gynrychioli eu gwlad yn ras ryngwladol beicio modur yr ISDE, yr International Six Days Enduro – sef Olympics y byd rasio Enduro.

Yn ystod y cyfnod hwn, cydnabwyd Calvin Williams ac Aled Williams, y ddau o bentref Cwmann, ymhlith reidwyr enduro gorau’r gamp, a phrofwyd balchder mawr o fewn eu milltir sgwâr bod dau grwt ifanc lleol wedi eu dewis i gystadlu tros eu gwlad ar y llwyfan uchaf. Roedd yn gychwyn ar gyfnod llwyddiannus iawn o gystadlu i’r ddau ac yn benllanw ar y blynyddoedd lawer o ymarfer, hyfforddi, gwella ffitrwydd a datblygu eu doniau ar y beic.

Tros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae hanes yn ail-adrodd ei hun wrth i ddau athletwr ifanc o ardal Llambed gael eu dewis i rasio ISDE 2024 tros dim Cymru, a hynny allan yn Sbaen ganol mis Hydref.

Fel Calvin ac Aled o’u blaen, mae Sion Evans (19 oed) o Gwmann a Carwyn Rosser (22 oed) o Bentrebach, yn gyflym ennill eu statws fel dau o raswyr ifanc mwyaf disglair y gamp, ac mae’r ddau yn edrych ymlaen yn eiddgar at wisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf yn Santiago de Compostela ganol mis Hydref a chystadlu gyda’i gilydd yn erbyn goreuon y Byd Enduro.

Mae Calvin ac Aled y ddau yn parhau i ymddiddori mewn Enduro ac yn cael mwynhad mawr o helpu’r to ifanc ar eu llwybr i frig y gamp. Ca Aled fwynhad mawr yn helpu ei blant, Trystan a Manon, i gystadlu’n llwyddiannus ar draws y wlad ar eu beiciau motocross, tra bo Calvin yn dal i fwynhau rasio ambell Enduro leol ac wrth ei fodd yn rhannu o’i brofiad gan hyfforddi, cynorthwyo ac arwain to ifanc Clwb Enduro Dyfed i gystadlu a datblygu eu crefft yn y gamp. Y ddau yn uchel iawn eu parch o fewn y gymuned Enduro ym Mhrydain a neb yn fwy diolchgar am eu cymorth a’u geiriau o gyngor na Carwyn a Sion, hwythau hefyd yn aelodau balch o Glwb Enduro Dyfed.

Mae Sion a Carwyn wedi teithio i Sbaen erbyn hyn ac am dreulio’r wythnos i ddod yn ymgyfarwyddo ag ardal a thirwedd y ras, gwneud paratoadau i’r beic a’r cit, a cherdded y milltiroedd o gymalau arbennig y byddant yn eu rasio trostynt pan fydd y gystadleuaeth chwe diwrnod yn cychwyn ar ddydd Llun, Hydref 14eg.

Gyda thîm Cymru yn un o 33 o wledydd ar draws y Byd sy’n cystadlu eleni, pob lwc i’r ddau o Lambed allan yn Sbaen, gwnewch eich gorau glas bois, mwynhewch y profiad, a dewch adre’n saff i Lambed i adrodd yr hanes. 

Gallwch wylio’r ras yn fyw ar y teledu trwy ddilyn y ddolen isod:

2024 ISDE – FIM Livestream

Dweud eich dweud