Dathlu wrth i safle saff symudol newydd gael eu lansio ar gyfer pobl ifanc Ceredigion

Mae Llyw a Byw yn brosiect newydd ac arloesol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.

gan Becca Head

Mae safle saff symudol newydd wedi cael ei lansio yng Ngheredigion yn dilyn ymgynghoriad blwyddyn o hyd gyda 1300 o bobl ifanc ar draws y sir.

Mae Feelz on Wheelz / Llyw a Byw yn brosiect newydd ac arloesol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth amrywiol o bobl ifanc yng Ngheredigion. Mae’n gaffi ieuenctid symudol a gwasanaeth cefnogaeth, a fydd yn darparu safle saff teithiol diogel i bobl ifanc ar draws y sir. Bydd yn teithio o amgylch Ceredigion, gan gefnogi pobl ifanc ym mhob cymuned, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig, nad ydynt efallai wedi gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth o’r blaen.

Gwnaethpwyd ymgynghoriad gan Dyfodol Ni, sef partneriaeth a arweinir gan bobl ifanc o 18 o sefydliadau ar draws Ceredigion, a reolir gan y grŵp lobïo pobl ifanc, S3 (Safe Space to Speak / Safle Saff i Siarad). Prosiect chwe blynedd gwerth £1.2m yw Dyfodol Ni, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’n dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da a dyma’r cyllidwr cymunedol mwyaf yn y DU. O ganlyniad i’r ymgynghoriad, mae S3 wedi ariannu’r gwasanaeth cymorth symudol newydd sbon hwn, a bydd yn defnyddio gweddill yr arian i gefnogi grŵp lobïo i greu rhwydwaith o fannau diogel i bobl ifanc ledled Ceredigion dros y 4 blynedd nesaf.

Dywedodd Cadeirydd, S3, Sophie:

“Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner prysur, ac mae gweld ein gweledigaeth yn dod yn fyw yn wirioneddol anhygoel. Rydyn ni wir yn credu yn y gwasanaeth hwn ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ifanc Ceredigion, nawr ac yn y dyfodol.”

Bwriad Feelz on Wheelz / Llyw a Byw yw mynd i’r afael â thri mater allweddol a ddeilliodd o ymgynghoriad Dyfodol Ni â 1300 o bobl ifanc yng Ngheredigion: mynediad at wasanaethau, safleoedd saff i bobl ifanc yn y sir, a chludiant.

Mae Feelz on Wheelz / Llyw a Byw yn fan symudol diogel lle gall pobl ifanc alw heibio, cael paned a chael mynediad at Weithwyr Cymorth hyfforddedig os maent yn dymuno. Bydd lluniaeth yn cael ei sybsideiddio, er hynny nid oes rheidrwydd ar bobl ifanc i wario unrhyw arian. Bydd y gwasanaeth yn darparu ar gyfer pobl ifanc 13-25 oed, pum diwrnod yr wythnos, gan weithredu ar amserlen dreigl o 12 wythnos mewn lleoliadau dan do ac awyr agored.

Dywedodd Jack, Is-Gadeirydd S3:

“Rydym wedi gweithio gyda chymaint o bobl ifanc anhygoel i wneud i hyn ddigwydd. Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Llyw a Byw o gwmpas Ceredigion a gobeithiwn y bydd y bobl ifanc a helpodd gyda’r ymgynghoriad yn cael profiad o’r cymorth y bydd yn ei ddarparu, a’u bod yn gallu gweld yr effaith maen nhw wedi’i chael ar y prosiect hwn.”

Dywedodd Rachael Eagles, Prif Swyddog Gweithredol Area 43 (Partner Arweiniol Dyfodol Ni):

“O gael y cyfle, gall pobl ifanc arwain cymunedau; mae’r bartneriaeth yn falch o fod yn gweithio gydag S3. Mae pobl ifanc yng Ngheredigion yn gweiddi am gymorth iechyd meddwl, a bydd Llyw a Byw yn cael effaith wirioneddol.”

Mae’r amserlen bresennol yn gweithredu ar sail gweithio tri diwrnod yr wythnos:

Dydd Mawrth (12-6pm) – Clwb Pêl Droed Felinfach, SA48 8AE

Dydd Iau (12:30-5:30pm) – Canolfan Hamdden Plasgrug, SY23 1HL

Dydd Sadwrn (12-6pm) – Canolfan Dyffryn, Aberporth, SA43 2EU

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, a’i amserlen, ewch i’w tudalennau cyfryngau cymdeithasol: @feelzonwheelzceredigion (Instagram) a Feelz on Wheelz / Llyw a Byw (Facebook).

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ar draws y DU. Diolch iddyn nhw, y llynedd llwyddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddosbarthu dros hanner biliwn o bunnoedd (£615.4 miliwn) o arian a newidiodd bywydau mewn cymunedau.