Yn debyg i Boo o ‘Monster’s Inc’

Mari Lewis o Gwmann sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau Papur Bro Clonc

D95264FA-C12E-4D9B-AF60

Mae Mari Lewis yn Swyddog Ymchwil a Datblygu gyda Iechyd a Gofal Gwledig Cymru ac yn Glerc Swyddfa gyda W. D. Lewis a’i Fab, a hi sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.

Dyma flas i ch o’u hymatebion:

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Cael fy ngalw’n ‘young man’ gan weithiwr yn yr ‘Indian takeaway’ yn Llambed.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
Mae’n rhy hwyr codi pais ar ôl pisho.

Beth yw dy lysenw?
Mari Moc.

I ba gymeriad enwog wyt ti’n debyg?
Boo o ‘Monster’s Inc’.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Er yn amser anodd, rhoddodd y coronafeirws gyfle i mi ddod yn agosach fyth at fy ffrindiau prifysgol pan oeddwn yn byw yn Aberystwyth. Byddant nawr bob amser yn rhan o fy mywyd. Hefyd, doedd dim ots gyda fi gael set i fi fy hun ar y bws!

Beth mae Papur Bro Clonc yn ei olygu i ti?
Atgofion o stopio yn Williams bach i brynu losin cyn mynd draw i blygu Clonc ar nos Fercher.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd.
Colli wncwl Daf.

Pryd est ti’n grac ddiwethaf?
Pan oeddwn yn hwyr i gyfarfod pwysig gan nad oedd y rhyngrwyd yn gweithio eto!!

Beth oedd y celwydd diwethaf i ti ddweud?
Na, dw i ‘definitely’ ddim ‘di bod yn aros am flynyddoedd i fod yn rhan o ‘Cadwyn y Cyfrinachau.’

Er mwyn dysgu mwy am Mari, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol ar y we.