![IMG_3953](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/05/IMG_3953-640x396.jpeg?12)
![IMG_3952](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/05/IMG_3952-225x139.jpeg?o)
![6af9465f-08a7-4d43-aaf6](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/05/6af9465f-08a7-4d43-aaf6-225x139.jpeg?6og)
![IMG_3951](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/05/IMG_3951-225x139.jpeg?j)
Ar nos Wener 12fed o Ebrill cynhaliwyd noson ddawns i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder yng Nghlwb Rygbi, Llanybydder.
Roedd yn noson dda a chafodd y plant amser da.
Llongyfarchiadau i’r canlynol am gael eu dewis i fod yn swyddogion:
Brenhines y carnifal – Adele Rees;
Morwynion – Cadi Cope ac Eva Marsden;
Brenhinesau y tylwyth teg – Megan Cope ac Erica Jones ;
Bydd wythnos y carnifal yn dechrau nos Sul 23ain o Fehefin yna y carnifal ar 29ain o Fehefin, gorymdaith i ddechrau am 12.30yp o faes parcio Y Llew Du ac i ddechrau yng Nghae Rygbi Llanybydder am 1.00yp. Thema’r gwisgoedd yw Llyfrau.
Noson y carnifal yng Nghlwb Rygbi Llanybydder – bydd adloniant i’r plant am 7.00yh ac yna The Hat and The Fiddle i’r oedolion o 9.30 tan hwyr.
Bydd trefn Wythnos Carnifal fel hyn:
✨Nos Sul 23ain o Fehefin: Gymanfa Ganu yng Eglwys Llanybydder
✨ Nos Lun 24ain o Fehefin: Bingo yng nghlwb rygbi Llanybydder yn dechrau am 8yh
✨Nos Fawrth 25ain o Fehefin: Helfa Drysor Cerdded, sydd yn dechrau am 6:30yh ac gorffen yn y Tanygraig. Mae’n £2 i bob person i ymuno, a’r wobr fydd £30 a tharian.
✨Nos Iau 27ain o Fehefin: Helfa Drysor Car, sydd yn dechrau am 6yh. £10 y car, os ydych am ymuno! Bydd yna wobr o £30 i’r enillwyr.
✨Nos Wener 28ain o Fehefin: “QUIZFACTOR” yng Nglwb Rygbi Llanybydder, yn dechrau am 7:30yh. Bydd angen 4 aelod ym mhob tîm am £10 y tîm ac bydd y tîm buddugol yn ennill £40 a tharian.
✨Dydd Sadwrn 29ain o fehefin: Y diwrnod mawr!
Am rhagor o fanylion, Gallwch gysylltu efo Pwyllgor Pentref Llanybydder https://www.facebook.com/share/d3sq26P3TSFB1F6D/?mibextid=9l3rBW