120 o dractorau yn Nrefach

Hyd yma mae dros £3,500.00 wedi’i godi i Glefyd Niwronau Motor

Gary Jones
gan Gary Jones
DD41B62F-8586-4A0F-9987

Tom Lewis o Bencader ar y Dai Brown ar Fynydd Brechfa / Llanllwni.

7750A1F8-04A1-4BED-B779

Rhai o stabs y daith tractors gyda Peter Davies ail o’r chwith.

43DA080A-BA3B-4257-987C

Cerdin Price yn croesi pont Llanfianghel ar Arth.

F401F16B-4A86-449A-AA95

Ben Lake yn edrych ar eitemau’r ocsiwn.

3050A166-B27C-4A4D-8AD6

Dorian Lleti Shon o Felinfach ar yr International 674.

E8994A7F-490F-4B52-B992

Mark Evans yn arwerthu rhai eitemau yn y bore.

B181EE96-07A3-406E-8801

Keith Evedon ar y dexta fach.

Cynhaliwyd taith tractorau elusennol flynyddol Drefach ddydd Sul diwethaf a drefnwyd gan Peter Davies a’i dîm o gynorthwywyr.

Gyda thaith o ychydig llai nag 20 milltir gadawodd y confoi o 120 o dractorau y pentref a gwneud eu ffordd tuag at Rhyddlan a Llanfianghel ar Arth.  Oddi yno gwnaeth y gyrwyr eu ffordd draw i New Inn a llwybr byr i fyny at Fynydd Brechfa lle bu seibiant fer. Rhaid oedd edmygu’r golygfeydd dros Geredigion a’r fferm wynt yng Nghoedwig Brechfa.

Yn ail hanner y llwybr aeth y tractorau yn ôl dros y mynydd, i lawr i Lanllwni ac yna ymlaen i Faesycrugiau ac yn ôl i’r diwedd drwy Lanwenog lle’r oedd bwyd yn aros i’r gyrwyr yn y cae yn Nrefach.

Aeth yr arian a godwyd at y Glefyd Niwronau Motor a hyd yma mae dros £3,500,00 wedi’i godi i’r elusen.

Diolchodd Peter Davies i’r rhai a fynychodd gan gynnwys ei dîm o gynorthwywyr, a hebddynt ni fyddai’r daith yn bosibl.  Gyda rhoddion yn dal i gyrraedd ar ôl y daith bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.  Roedd cymaint o hen dractorau clasurol wedi dod a daeth nifer fawr o bobl i weld y tractorau yn y bore gan gynnwys Ben Lake, wyneb poblogaidd yn Nrefach.  Dyma oedd y lle i fod fore Sul.