Drama ‘Kate’ gan Mewn Cymeriad

Drama am frenhines ein llȇn, Kate Roberts, yn ymweld â Neuadd yr Hafod Gorsgoch

gan Carys Wilson

Bydd drama ‘Kate’ gan Mewn Cymeriad yn cael ei lwyfannu yn Neuadd yr Hafod Gorsgoch ar y 12fed o Orffennaf 2024 am 7:00 yr hwyr. Drama yw hon yn olrhain hanes brenhines ein llȇn, Kate Roberts. Dyma ychydig o gefndir y cynhyrchiad gan y cwmni Mewn Cymeriad:

Gwerinwraig, genedlaetholgar sydd yma ac er bod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi; rebal styfnig oedd Kate yn y bôn – dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion ac yn un a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Roedd hi’n gweld anhegwch ac anghydbwysedd yn y byd ac mae wedi cael ei beirniadu’n aml am fod yn besimistaidd ond gweld y gwir oedd hi – y gwir sy’n ddarn o hanes ein gwlad – a hynny drwy ei bywyd hi ei hun. 

Mae Kate yn ddrama sy’n archwilio bywyd y llenor, Kate Roberts, gyda cyfeiriadau at ei gwaith yn plethu drwy’r cynhyrchiad. Mae wedi ei ysgrifennu gan Janet Aethwy, sydd hefyd yn cyfarwyddo’r sioe. Drama un ddynes ydi hon, gyda’r actores Sera Cracroft wrth y llyw”. 

I brynu tocyn ewch i wefan Mewn Cymeriad www.mewncymeriad.cymru neu cysylltwch â Margaret Wilson ar 07854 417 267. Mae tocynnau yn £12 i oedolion a £8 i blant dan 16.