Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU, wedi eu yrru gan Ffyniant Bro. Cynhaliodd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) eu Gwobrau Gwirfoddoli mawreddog ar 10 o Fehefin, 2024, yn Neuadd Bentref Aberporth.
Bu’r seremoni’n cydnabod ymdrechion eithriadol unigolion a grwpiau sy’n rhoi eu hamser a’u sgiliau i gyfoethogi bywydau eraill ar draws Ceredigion.
Roedd gan ddigwyddiad eleni arwyddocâd arbennig wrth i ni ddathlu 40 mlynedd o Wythnos Gwirfoddolwyr. Wrth i ni lywio drwy cyfnod o ansicrwydd, mae gwirfoddolwyr wedi dod yn llinyn hanfodol yng ngwead cymdeithasol Cymru. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn amcangyfrif bod gwirfoddolwyr yn cyfrannu 145 miliwn o oriau bob blwyddyn, sy’n werth £1.7 biliwn i economi Cymru. Mae cydnabod effaith sylweddol yr unigolion a mynegi diolchgarwch yn arbennig o bwysig yn ystod yr amseroedd yma.
Dywedodd Hazel Lloyd Lubran, Prif Swyddog CAVO,
“Roedd safon yr enwebiadau eleni yn eithriadol o uchel, gan gyflwyno tasg heriol ond bositif i’r panel. Datgelodd y seremoni amrywiaeth o unigolion a grwpiau rhagorol sydd wedi cael effaith aruthrol ar Geredigion”.
Yn dilyn trafodaethau helaeth, cyhoeddwyd yr enillwyr yn swyddogol fel:
Cyflwyniad Eithriadol – Diane Dearlove – Canolfan Plant Jig-So.
Tîm – Ambiwlans St John – Adran Aberystwyth
Ymddiriedolwr – Rona Dalton- Thompson – Hwb Cymunedol Borth
Person ifanc – Owen Drakeley – Hwb Cymunedol Borth
40 mlynedd o wasanaeth – Caroline Wilson – Girlguides Ceredigion.
Llongyfarchiadau i chi gyd!!
CAVO – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion. Mae CAVO yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithredu cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion. www.cavo.org.uk, 01570 423 232, gen@cavo.org.uk