65 mlynedd fel organyddes Capel yr Erw

Dathliad arbennig i Mary Jones yng Nghellan

gan Geinor Jones

Ar ddydd Sadwrn yr 20fed o Ebrill bydd Mrs Mary Jones, Glasfryn, Cellan yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed.

Dydd Sul diwethaf bu dathlu yng Nghapel yr Erw. Roedd yr aelodau am ddymuno pen-blwydd hapus i Mary a datgan eu gwerthfawrogiad iddi am ei gwasanaeth clodwiw fel organyddes ers 65 mlynedd.

Cyflwynodd Eirios Jones (ysgrifenyddes) dusw o flodau i Mary a rhoddodd Glyndwr Jones (trysorydd) siec iddi ar ran yr aelodau.

Diolchwn i Mary am ei gwasanaeth wrth yr organ a dymunwn iechyd a hapusrwydd iddi i’r dyfodol. Pen-blwydd Hapus iawn!

Dweud eich dweud