Bro Pedr yn creu hanes heddiw!

Tîm Pêl Droed Bechgyn Blwyddyn 7 yn ffeinal Ysgolion Cymru!

gan Lowri Gregson

Mae Mai 12fed yn ddiwrnod cyffrous iawn yn hanes Ysgol Bro Pedr gan fod tîm bechgyn blwyddyn 7 yr ysgol wedi cyrraedd ffeinal Cwpan Pêl Droed Ysgolion Cymru.

Maent wedi brwydro’n galed yn erbyn ysgolion ar draws Cymru a heddiw mi fyddant yn chwarae’n erbyn tîm talentog Whitchurch High – hen ysgol yr enwog Gareth Bale yng Nghroesoswallt.

Dywed Mr Jo Jenkins,

“Mae’r tîm yma’n hynod dalentog ac wedi ymroi i ymarfer yn galed tuag at y ffeinal yma. Pleser pur oedd cael arwain y tîm yma – criw o fechgyn arbennig iawn!”

Yvhwanega Carys Morgan Pennaeth Bro Pedr,

“Mae’r ysgol yn falch iawn o lwyddiant enfawr y bechgyn, a dim ots beth yw canlyniad heddiw maent wedi rhoi Ysgol Bro Pedr ar y map ac rydym fel ysgol yn falch iawn ohonynt. Diolch o galon i Mr Jenkins ac i Mr Jones am sicrhau cyfleoedd arbennig i’r bechgyn. POB LWC FECHGYN, AMDANI!”

Hoffai’r ysgol hefyd ddiolch i Gethin Jones & Sons Agricultural Supplies am noddi cit bendigedig newydd y disgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn.

Mi fydd y gêm yn dechrau am 10yb yn Stadiwm TNS, Croesoswallt.