Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Rhoddwyd rhoddion mewn bocseidi lliwgar gan y 1st Lampeter Squirrel Scouts yn ddiweddar i’r Prosiect Bwyd Cymunedol (Llanbed).
Rhoddwyd llawer o wahanol anrhegion, gan gynnwys nwyddau ymolchi a siocled. Diolch i bawb !
Mae’r Prosiect Bwyd ar gael bob Dydd Mawrth yn Neuadd Fictoria, Llanbed o 12-2yp (gan gynnwys 24 Rhagfyr a 31 Rhagfyr). Mae ’na gyfle i gael bwyd a diod poeth am ddim – a hefyd pecynnau bwyd i rhai mewn angen.