Ar nos Sul, Rhagfyr 22ain daeth tyrfa dda ynghyd i gefnogi Taith Nadolig Tractorau a Cheir Ysgol Bro Pedr. Dyma’r tro cyntaf i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Pedr gynnal digwyddiad o’r math hwn a mawr yw ein dyled i’r criw gweithgar yma am drefnu, ac i bawb a helpodd ac a gyfranodd i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Roedd neuadd yr ysgol o dan ei sang a phawb yn mwynhau dal lan am sgwrs dros baned a mince pie. Llywyddion y noson oedd Dai a Gwen Davies, Gwarffynnon a hwy gafodd y dasg bleserus, ond digon anodd o feirniadu pa gerbyd oedd wedi ei addurno orau. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Mr Peter Davies, Drefach am ei Massey 135 a oedd yn edrych yn hynod ddeniadol. Derbyniodd dwrci yn wobr a diolch i Deulu’r Gibbons am y rhodd yma. Diolch hefyd i’r llywyddion am eu rhodd hael, i’r prif Noddwr HR Detailing and Valeting ac i’r holl fusnesau a roddodd woborau i’r Ocsiwn a’r raffl. Diolch i’r arwerthwr Mr Andrew Morgan, Morgan & Davies a oedd yng ngofal yr ocsiwn ac i bawb a fu’n twrio’n ddwfn i’w pocedi; fel cymuned ysgol rydym yn ddiolchgar iawn.
Roedd 55 o gerbydau yn Dractorau, Ceir, Loriau, Injan Dân, Fans, Pick Ups a Fastracks wedi troi lan i Ysgol Bro Pedr er mwyn mynd ar y daith. Roedd pawb wrth eu bodd yn gweld y cerbydau lliwgar yn teithio o’r maes parcio ac yn mynd drwy’r dref ac yna ar hyd ein heolydd cefn gwald. Diolch i swyddogion y Frigad Dân am arwain y cerbydau drwy’r dref cyn i’r tractorau barhau ar eu taith drwy bentrefi, Cwmann, Cellan, Llanfair, Llangybi a Silian. Aeth y ceir i gyfeiriad Pentrebach a theithio drwy bentrefi Alltyblaca, Drefach, Cwrtnewydd, Gorsgoch a Llanwnnen. Yn dilyn y daith cafwyd bwyd a diod yng Nghlwb Rygbi Llanbed a diolch iddynt am y croeso a’r arlwy.
Roedd hi’n noson arbennig iawn gyda gwir naws y Nadolig i’w deimlo. Llwyddwyd i godi swm sylweddoli o dros £3000 gyda’r elw i’w rannu rhwng Tir Dewi ac Adran Amaeth Ysgol Bro Pedr. Rydym fel ysgol mor ffodus fod gennym gymuned sydd mor barod i’n cefnogi er budd yr ysgol ac elusennau lleol. Yn dilyn llwyddiant eleni, mae’n siwr y byddwn am gynnal taith arall yn 2025! Diolch i bob un am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau a dymuniadau gorau dros yr wŷl.